Wavehill Consulting

Ymchwil a Gwerthuso yn Seiliedig ar Dystiolaeth

Wavehill Consulting

Site navigation

Amdanom

Mae gan Wavehill Consulting swyddfeydd yn Llundain a Gorllewin Cymru gyda thîm sy'n cynnwys staff sy'n siarad Cymraeg ar lefel ymgynghori, ymchwilio a thîm cyfweld, ac mae bob un ohonynt yn caniatáu i ni neilltuo'r tîm perffaith sydd â'r sgiliau angenrheidiol i gyflwyno.

Mae ansawdd cyson uchel ein gwaith i'w briodoli i'r Strwythur Clir sydd gennym gyda rolau a chyfrifoldebau diffiniedig; Set glir o brosesau a Sianeli cyfathrebu clir.

“Roedd y cyfathrebu rhwng Wavehill Consulting a'r cleient bob amser yn hynod dda ac roedd hyblygrwydd eu hymdriniaeth yn sicrhau bod y gwerthusiad yn cael ei gyflwyno i'r safon, y pris a'r amserlen gywir”

Fel tîm rydym yn cynnal ymdriniaeth yn canolbwyntio ar y cleient, yn adnabod ac yn rhannu arfer da wrth gyfuno profiad a brwdfrydedd.

“Roedd eu cefnogaeth a'u cymorth, a oedd yn aml y tu hwnt i'r disgwyl, bob amser yn cael ei gyflawni gyda gwén”

Bydd ein sgiliau rhyngbersonol gwych a gallu i gyfathrebu gydag ystod o bobl o bob oed a phrofiad yn sicrhau eich bod yn derbyn profiad personol ynghyd â phroffesiynol. Mae ein hymdriniaeth yn cyflwyno cyfranogiad uchel, data o ansawdd a gwell dyfnder o ddealltwriaeth wrth ddehongli canlyniadau.

“Roedd pawb yn Wavehill yn broffesiynol, yn gefnogol ac yn hawdd mynd atynt ac roeddwn yn falch iawn gyda strwythur a chynnwys yr adroddiad terfynol, a oedd, yn fy marn i, yn gywir, yn gytbwys ac yn deg.”

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau