Wavehill Consulting

Ymchwil a Gwerthuso yn Seiliedig ar Dystiolaeth

Wavehill Consulting

Site navigation

Gwasanaethau Dwyieithog

Wavehill – “Ymgynghoriaeth cwbl ddwyieithog”

Mae dwyieithrwydd yn ganolog i hyrwyddo amrywiaeth a sicrhau cyfleoedd cyfartal. Gan hynny mae Wavehill yn cadw at arfer gorau dwyieithog yn ein holl waith maes yng Nghymru. Wrth gasglu gwybodaeth gan randdeiliaid teimlwn ei fod yn hanfodol fod pobl yn cael cynnig dewis a ydynt eisiau defnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg. Nid yn unig mae hyn yn sicrhau bod pobl yn fwy hyderus wrth siarad â ni, ond mae hefyd yn gwneud synnwyr o safbwynt ansawdd data - mae ein profiad yn dweud wrthym fod gwell data yn cael ei gynhyrchu pan fydd pobl yn teimlo'n gyffyrddus gyda'r iaith y maent yn ei defnyddio.

Yn ddiweddar hefyd rydym wedi ymgymryd â nifer o brosiectau lle'r oedd yr iaith Gymraeg yn bwnc ymchwil, ynghyd â'r brif iaith cyfathrebu. Fe wnaethom ymgymryd â gwerthusiad effaith ar gyfer Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar y prosiect Estyn Llaw, sy'n anelu at hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Rydym hefyd wedi cwblhau rhaglen o ymchwil gyda myfyrwyr Addysg Bellach dwyieithog ar gyfer Mantais ar eu hagweddau tuag at astudiaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y Brifysgol.

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau