Wavehill Consulting

"Ymrwymiad ac ymlyniad"

Wavehill Consulting

Site navigation

Astudiaeth Achos Plant a Phobl Ifanc 1

Cronfa Pobl Ifanc y Loteri

Dewiswyd Wavehill Consulting a GEN Consulting fel partneriaeth i gyflwyno gwerthusiad cadarn 5 mlynedd o Gronfa Pobl Ifanc y Gronfa Loteri Fawr.

Cynhelir yr astudiaeth werthuso am 5 mlynedd ac mae'n cynnwys pobl ifanc o Loegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Yn benodol byddwn yn edrych ar sut mae dros £100 miliwn o arian y Loteri wedi helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd a sut mae'r sgiliau hyn wedi'u helpu yn eu bywydau a'u datblygiad personol.

Yr her yn yr astudiaeth hon yw sicrhau ein bod yn mesur effaith y rhaglen ar bobl ifanc ac nid dim ond y grwpiau cymunedol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda hwy. Rydym eisiau gweld y prosiectau yn newid bywydau ac yn ailgyfeirio pobl ifanc sydd wrth risg o adael gwasanaethau a systemau prif ffrwd.

Cleient: Y Gronfa Loteri Fawr

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau