Astudiaeth Achos Plant a Phobl Ifanc 2
Arolwg o Gyfranogiad Chwaraeon a Hamdden ymhlith y rhai rhwng 11 a 16 mlwydd oed yng Nghymru
Yn 2007 fe wnaeth Wavehill ymgymryd ag arolwg ystafell ddosbarth o dros 12,000 o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7-11 o fewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru. Ymgymerwyd â'r astudiaeth ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru ac roedd yn archwilio:
Lefelau cyfranogi pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, a hynny o fewn a'r tu hwnt i oriau ysgol arferol
Gweithgareddau yr ymgymerir â hwy o fewn gwersi addysg gorfforol ar yr amserlen, chwaraeon fel rhan o weithgaredd allgyrsiol a gweithgaredd y tu allan i'r ysgol, gan gynnwys gweithgareddau mewn clybiau
Y ffactorau sy'n dylanwadu ar gyfranogiad pobl ifanc mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol
Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys elfen ‘astudiaeth achos’ ansoddol a oedd yn archwilio'r rhwystrau y mae croestoriad o bobl ifanc yn eu hwynebu tuag at gyfranogi mewn ymarfer corff ac arwain ffordd o fyw iach. Roedd Wavehill yn gallu ymdrin â'r gwerthusiad hwn gyda dealltwriaeth fanwl o ‘Cynnig Chwaraeon 5 Awr Plant a Phobl Ifanc’ y Llywodraeth a'r bobl ifanc hynny yr ystyrir eu bod yn ‘rhannol actif’.
Y mater i Wavehill oedd sut i gyflwyno arolwg technegol mewn modd a oedd yn ddeniadol ac yn hwyliog i ddisgyblion. Fe wnaethom gynllunio ‘gwers’ unigryw y gwnaethom ei chyflwyno mewn ystafelloedd dosbarth ar draws Cymru i esbonio ac i gysylltu â chysyniad yr arolwg ac yna cyflwyno'r holiadur i'r disgyblion unwaith yr oeddynt wedi cysylltu â'r pwnc. Roedd y strategaeth hon yn gweithio'n dda iawn ac mae'n dangos bod hi'n werth rhoi cynnig ar ymdriniaethau arloesol tuag at broblemau.
Mae canlyniadau'r arolwg wedi'u defnyddio i osod polisi ar lefelau cenedlaethol ac ar lefelau awdurdod lleol, ac er mwyn asesu effeithiolrwydd y mentrau cyfredol tuag at hyrwyddo cyfranogiad mewn ymarfer a byw'n iach.
Cleient: Cyngor Chwaraeon Cymru