Wavehill Consulting

"Ymrwymiad ac ymlyniad"

Wavehill Consulting

Site navigation

Plant a Phobl Ifanc

“Roedd y gwerthusiad yr ymgymerodd Wavehill ag ef yn hynod yn ei broffesiynoliaeth; o fanylion yn y tendr, i'w taerineb ar wybodaeth ar sail tystiolaeth a gwybodaeth ddilys, yr holl ffordd hyd at yr adroddiad terfynol”

Mae'r agenda strategol yn ymwneud â Phlant a Phobl Ifanc yn esblygu'n gyson. Yn Wavehill rydym yn wybodus, yn arloesol ac uwchlaw dim yn gynhwysol yn ein gwaith gyda Phlant a Phobl Ifanc. Rydym yn sicrhau fod yr ymgynghori'n fywiog, yn hwyliog ac yn hygyrch, sy'n caniatáu iddynt fynegi eu barnau yn rhydd.

Mae Wavehill wedi defnyddio ymarferion cyfranogol ar draws y DU, ac mae gennym brofiad eang o weithio gyda phobl ifanc mewn ystod o wahanol ardaloedd ac amgylchiadau, o amgylcheddau trefol i gymunedau gwledig.

Prosiectau

  • Cronfa Pobl Ifanc y Loteri

    Astudiaeth werthuso fawr ar draws y DU ar gyfer Tîm Pobl Ifanc y Gronfa Loteri Fawr.
    Cleient: Y Gronfa Loteri Fawr

  • Arolwg o Gyfranogiad mewn Chwaraeon a Hamdden ymhlith y rhai rhwng 11-16 oed yng Nghymru

    Arolwg mawr o 12,000 o blant ysgol i weld beth yw eu cyfranogiad mewn chwaraeon a'u hagwedd tuag at chwaraeon.
    Cleient: Cyngor Chwaraeon Cymru

  • Porth Ieuenctid

    Astudiaeth o agweddau Pobl Ifanc ‘wrth risg’ a'r rhwystrau tuag at symud ymlaen at gyflogaeth neu hyfforddiant.
    Cleient: Gyrfa Cymru

  • Agents for Change

    Rhaglen yn Tooting, Llundain wedi'i hanelu a'i rhedeg gan bobl ifanc yn y cymunedau Asiaidd a Phobl Dduon.
    Cleient: Cyngor Bwrdeistref Wandsworth

  • Gwerthusiad canol tymor Breaking barriers, SRB5

    Rhaglen lwyddiannus wedi'i hanelu at bobl ifanc sydd wrth risg o fod yn ddioddefwyr trosedd neu gyflawni trosedd yn ystadau ac ardaloedd o amddifadedd yn Llundain.
    Cleient: Crime Concern

  • Offeryn ymchwilio Gweithlu Plant

    Adnodd ymchwilio yn esbonio'r cyflog a'r gwobrau ar draws y sector Gweithlu Plant.
    Cleient: Cyngor Datblygu Gweithlu Plant

  • Ieuenctid yn Gyntaf

    cynllun sy'n cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sydd wrth risg, neu sydd eisoes wedi'u hallgau o gymdeithas yn Sir Gâr, Gorllewin Cymru.
    Cleient: Cyngor Sir Gâr

  • Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc Gwynedd – Gwerthusiad o Brosiectau a Ariannir gan Cymorth

    Partneriaeth Fframwaith i sicrhau ymdriniaeth newydd tuag at gynllunio a chyflwyno gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc; roedd yn anelu at resymoli mecanweithiau cynllunio, cyflawni gwell cydlyniad rhwng gwasanaethau a harneisio'r holl wasanaethau o amgylch amcanion cyffredin.
    Cleient: Cyngor Gwynedd

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau