Wavehill Consulting

"Adnabod pynciau"

Wavehill Consulting

Site navigation

Astudiaeth Achos Cymunedol 1

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru - Cronfa Risg Gymdeithasol, Gwerthusiad Terfynol Dros Dro

Ymgymerodd Wavehill â gwerthusiadau dros dro a therfynol o'r Gronfa Risg Gymdeithasol, rhaglen Cynhwysiant Cymdeithasol nodedig Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Gronfa Risg Gymdeithasol yn bodoli i dargedu unigolion sydd wedi'u hallgau'n gymdeithasol ac yn eu helpu i sicrhau swyddi, cael mynediad at gyfleoedd dysgu a meithrin hyder.

Cyflwynir gweithgareddau'r gronfa trwy sefydliadau gwirfoddol bach sydd â ‘chyrhaeddiad’ perffaith i gymunedau difreintiedig. Yn y gwerthusiad dros dro argymhellodd Wavehill y dylai'r rhaglen newid y ffordd y mae'n casglu gwybodaeth ynghylch y cynnydd a wnaed gan fuddiolwyr o ran cynnydd mewn hyder, cymhelliad a sgiliau bywyd, ynghyd â chymwysterau a swyddi.

Pan gawsom ein comisiynu i ymgymryd â'r gwerthusiad terfynol dair blynedd yn ddiweddarach, roeddem yn gallu ychwanegu ein data cychwynnol ac astudio ymhellach yr effaith yr oedd y gronfa wedi'i chael ar y bobl yr oedd yn cysylltu â hwy. Fe wnaethom hefyd awgrymu ffyrdd ymarferol i'r rhaglen symud ymlaen i'r Rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd Rhanbarthol gan adeiladu ar ei ffocws cynyddol ar ddangosyddion cynnydd caletach.

Cleient: Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau