Wavehill Consulting

"Adnabod pynciau"

Wavehill Consulting

Site navigation

Astudiaeth Achos Cymunedol 2

Greater Peckham Alliance and Aylesbury Plus

Cyflwynodd Wavehill werthusiad o'r rhaglen SRB a ariannodd gwaith datblygiad cymunedol ar Ystâd Aylesbury.

Roedd gan y Cynllun dri o amcanion gor-redol: cynhwysiant cymdeithasol; diogelwch cymunedol; ac adeiladu cymunedau. O fewn y meysydd thematig ehangach hynny, cafwyd nifer o amcanion strategol mwy penodol hefyd. Yn nhermau strategaeth gyffredinol, ystyriwyd fod y Cynllun SRB yn ategu at raglen NDC llawer yn fwy ac yn fwy uchelgeisiol, yn ariannu nifer o brosiectau “ar sail pobl” yr ardal yn hytrach na phrosiectau gwariant cyfalaf.

Fe wnaethom gyflwyno'r gwerthusiad hwn ac ymgynghoriad cymunedol yn ystod cyfnod sensitif iawn ac roedd yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwbl niwtral rhwng y preswylwyr ar yr ystâd, eu grwpiau â diddordeb, Cyngor Southwark a'r tîm y Fargen Newydd yr oedd gan bob un ohonynt eu blaenoriaethau a'u huchelgeisiau eu hunain.

Y casgliadau allweddol oedd bod y Cynllun SRB yn llwyddiannus wrth oresgyn dau siom arwyddocaol: yn gyntaf, bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r strategaeth NDC gwreiddiol pan bleidleisiodd y tenantiaid yn erbyn trosglwyddo stoc tai; ac yn ail, ym mlwyddyn olaf y Cynllun, nid oedd modd i'r LDA anrhydeddu ei ymrwymiad gwariant refeniw gwreiddiol a bu'n rhaid ailstrwythuro prosiectau'r Cynllun. Er gwaethaf y ffactorau hyn, parhaodd y Cynllun i gyflwyno prosiectau o ansawdd.

Cleient: Cyngor Southwark

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau