Wavehill Consulting

"Adnabod pynciau"

Wavehill Consulting

Site navigation

Cymuned

“Ymgymerwyd â'r comisiwn cyfan mewn modd proffesiynol iawn yn osgoi unrhyw jargon dianghenraid lle bynnag fod hynny'n bosib. Roedd y Bartneriaeth yn gallu dilyn y rhaglen a'r tasgau gweithdy a osodwyd gan Wavehill. Ni fyddai Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf yn oedi cyn argymell gwasanaethau Wavehill i sefydliadau eraill."

Mae Wavehill yn gweithio'n agos gyda grwpiau cymunedol ar draws y DU ac rydym wedi cwrdd â rhai pobl a phrosiectau hynod, a'u gwerthuso.

Mae ein gwaith cyfredol yn cynnwys prosiectau mawr ar draws y DU sy'n cynnwys cannoedd o grwpiau cymunedol, ynghyd â gweithio'n fanwl gyda sefydliadau cymunedol unigol ar raddfa leol iawn.

Prosiectau

  • Pawb a'i Le

    Mae £66 miliwn yn cael ei wario ar draws Cymru o dan y rhaglen Pawb a'i Le er mwyn adfywio cymunedau, gwella cysylltiadau cymunedol, a chyfoethogi amgylchedd lleol ac amwynderau cymunedol. Ar hyn o bryd mae Wavehill yn mesur effaith y rhaglen.
    Cleient: : Y Gronfa Loteri Fawr

  • Partneriaeth Cray Valley

    Gweithiodd Wavehill gyda grwpiau o Deithwyr a oedd yn anodd cysylltu â hwy er mwyn asesu'r buddion yr oeddynt yn eu cael o'r rhaglen adfywio hon.
    Cleient: Cray Valley Partnership

  • Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf

    gwerthusiad Cymru gyfan o effeithiolrwydd ac effaith y gronfa hon sydd wedi helpu tua 3,300 o Grwpiau Cymunedol i gataleiddio gweithgaredd cymunedol.
    Cleient: Llywodraeth Cynulliad Cymru

  • Small Change

    Ariannodd Partneriaeth Dinas Derby dros 100 o grwpiau cymunedol, mesurodd Wavehill effaith y grantiau.
    Cleient: Cyngor Dinas Derby

  • Cronfa Risg Gymdeithasol

    adolygiad Cymru gyfan o 200 o brosiectau cymunedol, creodd Wavehill fodel Arfer Gorau ar gyfer gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.
    Cleient: Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru/Llywodraeth Cynulliad Cymru

  • Cyngor Southwark

    Ariannodd Cyngor Southwark tua 100 o brosiectau o dan y rhaglen Cleaner, Greener, Safer, gwerthusodd Wavehill y dull cyflwyno a'r effaith.
    Cleient: Cyngor Southwark

  • Estyn Llaw

    – prosiect a ariannwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg sy'n anelu at hyrwyddo gwirfoddoli ymhlith siaradwyr Cymraeg a meithrin dwyieithrwydd o fewn y sector gwirfoddol.
    Cleient: Bwrdd yr Iaith Gymraeg

  • Cronfa Allweddol Wledig Merthyr Tudful

    Fe'i sefydlwyd i annog gweithio mewn partneriaeth a datblygiad cymunedol strategol hirdymor yn un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Gweithiodd Wavehill yn helaeth gyda busnesau a rhanddeiliaid lleol.
    Cleient: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau