Astudiaeth Achos Menter 1
Worthing - Canolfan Cefnogi Busnesau Micro
Ymgymerodd Wavehill ag arolwg strategol ar gyfer y grwpiau busnes bach a chartref o fewn partneriaeth economaidd leol Worthing First. Roedd y prosiect hwn yn rhan o astudiaeth tair rhan i anghenion, galw a dichonoldeb sefydlu cyfleuster i annog creu a thwf busnesau micro a bach o fewn Worthing a'r ardal amgylchynol.
Yr anhawster gyda'r cytundeb hwn oedd adnabod busnesau a oedd yn masnachu o'u cartrefi. Fe wnaethom sylweddoli y byddai'n hanfodol dod o hyd i'r ffynonellau cywir i dargedu pobl busnes cartref. Fe wnaethom ymuno â BT i adnabod llinellau ffôn busnesau cartref a chafwyd effaith wirioneddol trwy ddefnyddio'r data hwn. Dengys hyn bod yn rhaid i arolygon ddefnyddio data o ansawdd uchel er mwyn cyflwyno canlyniadau o ansawdd uchel.
Dadansoddiad Anghenion o Fusnesau Lleol
ar sail sampl cadarn a dilys o 400 cyfweliad gyda busnesau bach a chartref a ddarparodd amcangyfrif cywir o'r galw a darlun clir o ba fath o gyfleuster a strwythur cefnogi a fyddai'n darparu orau ar gyfer eu hanghenion.
Darparu Dewisiadau Lleoliad a Datblygiad
Darparodd Wavehill syniad clir ynghylch y math o unedau y dylid eu hadeiladu a'r meintiau optimaidd yn nhermau gofod llawr a'r wybodaeth angenrheidiol i gwmpasu'r gofynion yn nhermau tir, lleoliad a'r cyfleusterau cydrannol a helpu i ddechrau adnabod y partneriaid sy'n rhaid cysylltu â hwy.
Cynllunio yn y Dyfodol – Cwmpasu'r cyfnod nesaf
Datblygodd Wavehill gynllun gweithredu ymlaen a chynorthwyo wrth adnabod partneriaid datblygu, safleoedd posibl a llunio'r bartneriaeth gyhoeddus breifat a oedd yn ofynnol i gyflwyno'r datblygiad.
Yn ystod y prosiect hwn sicrhaodd Wavehill wybodaeth fanwl o gynllun corfforaethol a Strategaeth Economaidd Ranbarthol SEEDA.
Cleient: Cyngor Bwrdeistref Worthing