Astudiaeth Achos Menter 2
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru - Cronfa Fuddsoddi Gymunedol
Ymgymerodd Wavehill â gwerthusiad manwl o'r Gronfa Fuddsoddi Gymunedol. Roedd y gronfa yn brosiect peilot, wedi'i seilio'n rhannol ar y model Future Builders yn Lloegr, lle rhoddir cyfalaf ar sail benthyciad a llog masnachol i sefydliadau cymunedol a gwirfoddol a mentrau cymdeithasol.
Y thesis oedd trwy ddarparu cyfalaf i'r sector nad ydynt yn gallu cael mynediad at ariannu masnachol, byddai'n gallu buddsoddi mewn asedau, datblygiad busnes a hyfforddiant busnes dros gyfnodau hwy o amser, a fyddai'n caniatáu i sefydliadau ehangu ar eu hystod o wasanaethau ac ôl troed cyflwyno.
Y mater o ymgymryd â gwerthusiadau yn gynnar iawn yn ystod cylch y prosiect yw nad yw'r prosiect wedi cael digon o amser i aeddfedu a datblygu arfer da neu faterion. Yn yr astudiaeth werthuso hon roeddem yn ofalus iawn i beidio â bod yn rhy benodedig ynghylch ein hargymhellion gan fod y cynllun yn parhau'n beilot ac angen cyfnod amser hwy i brofi'r thesis uchod.
Roedd y gwerthusiad yn astudiaeth bwysig iawn ac fe helpodd i hysbysu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru/WEFO ar sut i hybu buddsoddiad yn y trydydd sector er mwyn codi'r potensial i'r sefydliadau hyn gyflwyno mwy o wasanaethau wedi canolbwyntio ar ddinasyddion.
Cleient: Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru