Wavehill Consulting

"Hysbysu tyfiant"

Wavehill Consulting

Site navigation

Menter

“Hyd yn oed cyn cyhoeddi'r adroddiad yr oedd eisoes wedi llwyddo wrth ein helpu i sicrhau £3 miliwn pellach tuag at weithredu'r prosiect. Serch hynny, y nodwedd fwyaf boddhaol oedd bod Wavehill wedi gorgyflawni ar y rhifau cyfweld pan ddywedodd yr holl ymgynghoriaethau eraill yn y lle cyntaf na fyddent yn gallu bwrw eu targedau dymunol.”

Mae gan Wavehill ddealltwriaeth wych o themâu adfywio economaidd sy'n berthnasol i brosiectau cefnogaeth, sgiliau a hyfforddiant busnes a menter, adfywio ar sail ardal a mentrau datblygu cymunedol.

Mae ein gwerthusiadau eang ar draws y DU wedi ymdrin â thair prif haen menter i gynnwys gwaith gyda busnesau cyfredol, menter gymdeithasol a buddsoddiad cymunedol a rhaglenni sefydlu busnes, y mae pob un ohonynt wedi'u cynnwys yn y strategaethau LEGI.

Agwedd ar ein hadroddiadau y mae ein cleientiaid yn aml yn eu gwerthfawrogi fwyaf yw ein gallu i ddarparu strategaethau datblygu ac argymhellion blaengynllunio; rhywbeth yr ydym yn defnyddio ymdriniaeth cerdyn sgorio cytbwys tuag ato.

Prosiectau

  • Barrow-in-Furness – Gwerthusiad o Gefnogaeth Fenter yn Cumbria

    Ym 1998 dyfarnwyd £5,651,550 i Bartneriaeth Heart of Barrow gan Gronfa Her SRB (Cylch V) ar gyfer rhaglen adfywio 6 mlynedd o dan y teitl Building Bridges.
    Cleient: Cyngor Bwrdeistref Barrow

  • Astudiaeth Cydraddoldeb Busnesau Bach a Chanolig

    beth yw'r mecanwaith orau tuag at hyrwyddo cydraddoldeb cyflogaeth i Fusnesau Bach a Chanolig?
    Cleient: Llywodraeth Cynulliad Cymru

  • Canolfan Cefnogaeth Fusnes Micro

    Roedd y prosiect hwn yn rhan o astudiaeth tair rhan i anghenion, galw a dichonoldeb sefydlu cyfleuster i annog creu a thwf busnesau micro a bach o fewn Worthing a'r ardal amgylchynol.
    Cleient: Cyngor Bwrdeistref Worthing

  • Gwerthusiad Cronfa Fuddsoddi Gymunedol

    Roedd y gronfa yn brosiect peilot, wedi'i seilio'n rhannol ar y model Future Builders yn Lloegr, lle rhoddir cyfalaf ar sail benthyciad a llog masnachol i sefydliadau cymunedol a gwirfoddol a mentrau cymdeithasol.
    Cleient: Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

  • BASEC Birmingham EQUAL

    Roedd prosiect BASEC EQUAL yn brosiect arloesol yn darparu gwasanaethau cyn ac ar ôl sefydlu a chyflwynwyd y gefnogaeth gan ddefnyddio asiantaethau cymunedol gyda chysylltiadau â grwpiau anodd eu cyrraedd.
    Cleient: Siambr Fasnach Birmingham

  • Hackney Works (Cylch 6) Rhaglen Worklessness Engagement

    Roedd hon yn rhaglen gwerth £875,000 a gyflwynwyd yn LB Hackney i gysylltu gyda phreswylwyr sy'n anweithredol yn economaidd (megis rhieni sengl, y rhai dros 50 oed a phobl sy'n derbyn budd-daliadau analluogrwydd), gyda golwg ar eu cefnogi i mewn i gyflogaeth gynaliadwy.
    Cleient: Renaisi

  • Gwerthusiad o Wasanaeth Cynghori Busnes Cyffredinol

    Gwerthusiad o ddarpariaethau cefnogaeth craidd a chyngor i gwmnïau bach ar draws Cymru gyfan a ddarparwyd gan eu pedair swyddfa ranbarthol a dros 80 o asiantaethau a darparwyr menter.
    Cleient: Awdurdod Datblygu Cymru

Copyright © 2010 Ymgynghoriaeth - Telerau ac amodau