Wavehill Consulting

Ymchwil a Gwerthuso yn Seiliedig ar Dystiolaeth

Wavehill Consulting

Site navigation

Cyllid Ewropeaidd

“O ran Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru 2007-2013, mae’n rhaid i’r holl noddwyr prosiectau gynnal neu gomisiynu gwerthusiadau ar eu prosiectau.” - Canllawiau Monitro a Gwerthuso WEFO

Mae Wavehill yn werthuswr blaenllaw ar raglenni a ariennir gan Ewrop yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Mae gennym brofiad helaeth o werthuso amrywiaeth anhygoel o brosiectau bach a mawr wedi’u hariannu gan raglenni’r ERDF, ESF ac Interreg. Os nad ydych am gomisiynu gwerthusiad annibynnol, gallwn hefyd eich helpu i sefydlu systemau monitro a fydd yn sicrhau eich bod yn casglu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddangos effaith eich prosiect.

Dyma rai enghreifftiau yn unig o’n gwaith diweddar:

Prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)

Gwerthusiad parhaus o’r prosiect COASTAL - penodwyd Wavehill gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe i gynnal gwerthusiad annibynnol parhaus o COASTAL; sef prosiect gwerth £54m sydd i hyrwyddo cyngor galwedigaethol, cyflogaeth, hyfforddiant sgiliau a chyfleoedd dysgu gydol oes i unigolion sydd ar hyn o bryd yn economaidd anweithgar. Caiff COASTAL ei ariannu gan Raglen Gydgyfeirio’r Comisiwn Ewropeaidd ac mae’n brosiect rhanbarthol ar gyfer ardaloedd yr awdurdod lleol yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Caerfyrddin, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr a Cheredigion.

Gwerthusiad parhaus o’r prosiect Sgiliau Bywyd - mae Sgiliau Bywyd yn brosiect £14miliwn sy’n cefnogi cyflwyno gwasanaethau ledled Cymru a fydd yn cefnogi grwpiau a dargedir o bobl sy’n economaidd anweithgar er mwyn eu cael i ymgysylltu ag addysg, dysgu, gwirfoddoli a chyflogaeth, neu i ddychwelyd iddynt. Mae’n brosiect â ffocws iddo, gan dargedu grwpiau buddiolwyr penodol, sef: ‘y rheiny sy’n gadael gofal’, ‘gofalwyr a chyn-ofalwyr sy'n dychwelyd i’r gwaith’, ‘teuluoedd sy’n anweithgar yn economaidd’ a ‘phobl hŷn’. Cynhaliwyd y gwerthusiad dros gyfnod o 4 blynedd, ac mae’n canolbwyntio ar asesu a yw’r prosiect yn cyflawni ei amcanion, a sut y caiff yr amcanion hynny eu cyflawni. Mae adnabod a rhannu arferion da a’r gwersi a ddysgwyd yn rhan bwysig o'r gwerthusiad.

Gwerthusiad parhaus o brosiect Marchnad Lafur Drosiannol - mae Wavehill wrthi’n gwerthuso prosiect Marchnad Lafur Drosiannol (ILM) a ariennir o dan Flaenoriaeth 2 Thema 1 y rhaglen Cydgyfeirio a Chystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol (RCE) ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Nod y prosiect ILM yw lleihau anweithgarwch economaidd yng Ngogledd a Dwyrain Cymru drwy gynnig contractau i fudiadau sy’n darparu datblygiad personol i bobl sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth, a hynny drwy gynnig cyfnod o gyflogaeth a hyfforddiant â chymorth iddynt. Fel rhan o’r gwerthusiad byddwn yn asesu a yw’r prosiect yn llwyddo i gyrraedd yr unigolion hynny sydd bellaf o’r farchnad lafur.

Prosiectau Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)

Gwerthusiad parhaus o’r prosiect Cymunedau a Natur - mae Cymunedau a Natur (CAN) yn brosiect £14.5 miliwn sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Raglen Gydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd. Nod sylfaenol CAN yw creu mwy o dwf economaidd a swyddi cynaliadwy trwy fanteisio ar rinweddau amgylcheddol Cymru, yn arbennig ei thirwedd a’i bywyd gwyllt. Caiff y gwerthusiad ei gynnal dros gyfnod o 3 blynedd ochr yn ochr â’r gwaith o gyflwyno'r prosiect a’r mentrau a gyllidir. Bydd y gwerthusiad yn mesur effaith gymdeithasol-economaidd ymyrraeth CAN ar wirfoddolwyr, cyfranogwyr, asiantau cyflawni a’r cymunedau sy’n ‘cynnal’ y mentrau a ariennir gan y prosiect.

UCLAN - cynhaliodd Wavehill astudiaeth werthuso ar dri phrosiect wedi’u hariannu gan ERDF ac wedi’u lleoli yn y Gwasanaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ym mhrifysgol UCLan. Mae UNITE yn fenter ranbarthol sy’n darparu cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig eu maint trwy gynnig lleoliadau i raddedigion a myfyrwyr am dymor byr o bedair wythnos, yn rhad ac am ddim. Mae Northern Lights yn rhaglen gymorth gynhwysfawr i fusnesau wedi’i chynllunio ar gyfer pobl sy’n ystyried dechrau busnes, neu sydd eisoes yn weithredol. Mae elfen Media Revenue y rhaglen yn canolbwyntio ar fusnesau bach a chanolig sydd eisoes wedi’u sefydlu ac mae elfen Entrepreneurship y rhaglen yn canolbwyntio ar gyfnod cyn-dechrau datblygiadau. Mae oes y prosiectau wedi bod tua 2 flynedd ac mae ganddynt werth cyfunol o £5.8 i’r Brifysgol.

Interreg

Gwerthusiad o Cadwch Gymru’n Daclus a Phrosiect Cymunedau Gwyrdd An Taisce - yn ddiweddar comisiynwyd Wavehill i gynnal gwerthusiad o’r Prosiect Cymunedau Gwyrdd, sef blwyddyn olaf y prosiect cymunedol hwn a ariennir gan yr UE. Pwrpas y gwerthusiad yw nodi cryfderau, gwendidau ac effeithiolrwydd ei waith yn ymgysylltu â chymunedau mewn gweithgareddau amgylcheddol. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cynnal nifer o brosiectau a rhaglenni ar draws Cymru megis: Eco-Ysgol, Ymgyrch y Faner Las, Gwobrau Arfordir Glas, Gwobrau Glan Môr, Gwobrau Cymru Daclus, Wythnos Cymru Daclus a nifer o raglenni ‘mabwysiadu’ cymunedol.

Copyright © 2012 Wavehill Ltd - Terms and conditions