Wavehill Consulting

Gwerthusiad
"Ar sail tystiolaeth"

Wavehill Consulting

Site navigation

Astudiaeth Achos Gwerthuso 2

Llwybro-Routes

Mae Llwybro-Routes yn gynllun a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddangos i bobl ifanc yng Nghymru y gallant wireddu eu huchelgeisiau heb orfod gadael eu cymunedau lle y'u magwyd, neu trwy ddychwelyd i'r cymunedau hynny. Mae'r rhaglen yn casglu data gan bobl ifanc a addysgwyd yng Nghymru ac ar ôl hynny er mwyn cadw cysylltiad â hwy trwy gylchlythyr a gwefan y cynllun. Ynghyd â gwerthuso effeithiolrwydd ac effaith y cynllun, elfen allweddol o'r briff oedd datblygu cynllun ymlaen ar gyfer y cynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf a oedd yn mynd i'r afael â chasgliadau allweddol ac argymhellion y gwerthusiad.

Y mater gyda'r astudiaeth werthuso hon oedd bod ystod eang iawn o ddylanwadau ac amrywiolion y gallai pobl eu defnyddio i benderfynu a ddylent aros yng Nghymru ai peidio, neu symud i ardaloedd eraill, gwaith, astudiaeth, cyfeillgarwch, cariad, neu'n syml trwy brofi lleoedd newydd. Roedd angen i ni sicrhau bod yr arolwg yn ddigon mawr a digon eang i ddarparu peth adborth dilys i hysbysu'r tîm polisi yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Roedd y fethodoleg a ddefnyddiwyd gan Wavehill yn cynnwys cyfweliadau a thrafodaethau grwp gyda rhanddeiliaid allweddol ac arolwg ffôn ac e-bost gydag ymron i 500 o bobl a oedd wedi'u cofrestru ar gronfa ddata'r cynllun a oedd, ynghyd ag asesu effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarparwyd gan y cynllun, yn asesu newidiadau yn agweddau aelodau'r gronfa ddata yn nhermau eu gallu i fyw a gweithio yn y fan lle y'u magwyd a'r dylanwad yr oedd Llwybro-Routes wedi'i gael ar eu hagweddau.

Cleient: Llywodraeth Cynulliad Cymru

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau