Gwerthusiad – “Ar sail tystiolaeth”
Eich Angen – Gwerthusiad ar sail tystiolaeth
Rydym yn Cynnig – Tair haen o dystiolaeth; Strategol-Cyflwyno-Buddiolwyr
Mae ymdriniaeth Wavehill o werthuso ar sail tystiolaeth wedi'i datblygu dros gyfnod o 15 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi gwerthuso dros 300 o raglenni ar draws ein holl feysydd gwaith.
Rydym yn sylweddoli'r pwysigrwydd i chi o ddatblygu polisi a strategaethau newydd ar sail tystiolaeth gref a gasglwyd gan ddefnyddio'r dulliau mwyaf priodol a phrofedig a'r angen i olrhain y gadwyn resymeg rhwng allbynnau rhaglen, canlyniadau ac effaith gronnus.
Gallwn ddarparu astudiaeth werthuso strategol, neu astudiaethau rhaglen ac effaith yn datblygu strategaethau ymlaen, asesiadau ychwanegu gwerth strategol, modelau budd cost economaidd a strategaethau ymadael partneriaeth a rhaglen.
Rydym yn ymgymryd â phob math o werthusiadau, yn grynodol ac yn ffurfiannol, mae hyn yn cynnwys:
- Astudiaethau gwerthuso strategol
- Gwerthusiad parhaus
- Astudiaethau rhaglen ac effaith
- Asesiadau gwerth ychwanegol
- Strategaethau Ymlaen
Prosiectau
Pawb a'i Le
asesiad o effaith y rhaglen Pawb a'i Le yng nghyswllt tri chanlyniad y rhaglen o adfywio cymunedau, gwell cysylltiadau cymunedol, a gwell amgylchedd lleol ac amwynderau cymunedol.
Cleient: Y Gronfa Loteri Fawr
Gwerthusiad Terfynol AvenCentral SRB6
Gwerthusiad manwl i adnabod a chofnodi cynnydd a llwyddiannau rhaglen, sy'n cynnwys dros 60 prosiect, er mwyn tynnu sylw at lwyddiannau a'r gwersi a ddysgwyd. Roedd ein cleient yn parchu'n cyflwyniad olaf yn fawr a gofynnwyd i Wavehill ddogfennu a chynhyrchu ffilm o'r digwyddiad i nodi llwyddiant y rhaglen.
Cleient: Partneriaeth Adfywio Aven Central
Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf
gwerthusiad Cymru gyfan o effeithiolrwydd ac effaith y gronfa hon a gynlluniwyd i gataleiddio gweithgaredd cymunedol.
Cleient: Llywodraeth Cynulliad CymruGwerthusiad a Chynllun Ymlaen ar gyfer Rhaglen Llwybro Routes
cynllun a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddangos i bobl ifanc yng Nghymru y gallant wireddu eu huchelgeisiau heb orfod gadael eu cymunedau lle y'u magwyd, neu trwy ddychwelyd i'r cymunedau hynny.
Cleient: Llywodraeth Cynulliad Cymru
Gwerthusiad o'r Rhaglen Datblygu Gwledig yn Forest of Dean
comisiynwyd gan y Bartneriaeth Adfywio Forest er mwyn ymgymryd â gwerthusiad allanol o'r Rhaglen Datblygu Gwledig yn y Forest of Dean. Gofynnodd y Bartneriaeth Adfywio Forest i'r gwerthusiad gael ei gyflwyno i'r sefydliadau a'r unigolion a oedd yn cyfranogi fel ‘Adolygiad Gwella Parhaus’.
Cleient: Partneriaeth Adfywio Forest
Partneriaeth Datblygu GWLAD, Prifysgol Bangor
Mae Partneriaeth Datblygu GWLAD yn gweithio o fewn hyblygrwydd maes thematig EQUAL. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo dysgu gydol oes ac arferion gwaith cynhwysol sy'n annog recriwtio a chadw pobl sy'n dioddef yn sgil gwahaniaethu ac anghydraddoldeb yn y farchnad lafur.
Cleient: Partneriaeth Datblygu GWLAD
Rhaglen SRB Partneriaeth Peckham
Gwerthusiad o raglen SRB Partneriaeth Peckham a oedd yn ariannu'n rhannol weithgareddau adfywio Ystâd Sumner Road, Peckham Pulse, Llyfrgell Peckham a'r ardaloedd amgylchynol.
Cleient: Rhaglen Peckham / Bwrdeistref Southwark, Llundain
CCAT
adolygiad o'r ail raglen Interreg IIIA fwyaf yng Nghymru, wedi'i chyflwyno gan CCAT Aberystwyth.
Cleient: Llywodraeth Cynulliad Cymru