Wavehill Consulting

"Cydnabod llwyddiannau"

Wavehill Consulting

Site navigation

Astudiaeth Achos Byw'n Iach 1

Arlwyo Iachach o fewn Canolfannau Hamdden, Gwerthuso'r Fenter Beilot

Comisiynwyd Wavehill i ymgymryd â gwerthusiad o brosiect peilot Arlwyo Iachach o fewn Canolfannau Hamdden Llywodraeth Cynulliad Cymru, a'r diben oedd uno mentrau bwyta'n iach a gweithgaredd corfforol.

Cychwynnwyd y prosiect peilot a'r gwerthusiad mewn ymateb i'r Cynllun Gweithredu Bwyd a Ffitrwydd a'i gynllunio i asesu sut oedd cwsmeriaid yn ymateb i argaeledd y dewisiadau iach a sut y llwyddodd y canolfannau hamdden peilot i farchnata bwyd a diod iachach. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys monitro swm y bwyd a'r ddiod ‘iach” a werthwyd ym mhob canolfan a gymerodd ran, gan ymgymryd ag astudiaeth ansoddol o agweddau cwsmeriaid tuag at asesu effaith a hoffterau, a gwerthuso llwyddiant gweithgareddau pob canolfan er mwyn rhannau enghreifftiau o arfer gorau a'u mabwysiadu mewn man arall.

Yr anhawster gyda'r gwerthusiad hwn oedd nad oedd dangosyddion yn cael eu monitro. Fe wnaethom ddyfeisio set syml, megis “Sawl litr o ddwr potel sy'n cael ei ddosbarthu yn y Gampfa?” ac yna defnyddio'r mesurau hyn i ychwanegu rhai mesurau meintiol i'r adroddiad.

Cleient: Llywodraeth Cynulliad Cymru – Adran Iechyd y Cyhoedd a'r Proffesiynau Iechyd

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau