Wavehill Consulting

"Cydnabod llwyddiannau"

Wavehill Consulting

Site navigation

Astudiaeth Achos Byw'n Iach 2

Gwerthusiad o Gynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff – Arolwg iechyd a lles o brosiect peilot yng Ngorllewin Llundain

Roedd y gwerthusiad yn cynnwys astudiaeth 15 mis a oedd yn mesur y buddion iechyd a lles o gyfranogi mewn Rhaglen Atgyfeirio Ymarfer Corff cymunedol. Defnyddiwyd y canlyniadau i bennu a ddylai'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol lleol a'r Cyngor Bwrdeistref fuddsoddi mewn cyflwyno mynediad i'r rhaglen ar draws y fwrdeistref gyfan. Fe wnaethom olrhain oddeutu 120 o bobl yn ystod y prosiect gan ddefnyddio system arolwg ar y ffôn a'r we, cyfweld a chasglu data bob 3 mis neu'n chwarterol.

Mewn rhai achosion nid yw'r canlyniadau yn cefnogi'r rhaglen neu'r prosiect sy'n cael eu craffu ac roedd hwn yn un achos o'r fath. Er bod y cynllun ymarfer corff yn boblogaidd a'i fod wedi cyflwyno rhai canlyniadau defnyddiol, nid oedd y dystiolaeth yn ddigon cryf bod pobl yn newid eu ffordd o fyw o ganlyniad i'r prosiect ac felly fe wnaethom ddefnyddio tystiolaeth cost/sylfaen i ddangos nad oedd y prosiect wedi bod mor llwyddiannus â'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol.

Cleient: Bwrdeistref Hammersmith a Fulham Llundain

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau