Byw'n Iach
“Darparodd Wavehill werthusiad cynhwysfawr a phryfoclyd sydd wedi rhoi llwyfan da i'r Ganolfan Byw'n Iach adeiladu datblygiadau strategol arni yn y dyfodol. Seiliwyd yr argymhellion a ddarparwyd ar dystiolaeth ac roedd eu gwybodaeth o arfer da yn y maes yn amlwg."
Mae'r cyswllt rhwng adfywio ac iechyd cymunedol a'r gwahaniaethau mewn anghydraddoldeb iechyd fel mater tlodi ac amddifadedd wedi'u sefydlu ac mae bellach yn rhan o'n hymchwil a'n gwerthusiad strategol.
Rydym wedi bod yn gweithio ar flaen datblygiad iechyd cymunedol yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf ac mae gennym ystod eang o brofiad o weithio ochr yn ochr â chymunedau i asesu anghenion a gwerthuso effaith iechyd, ymarfer corff, ac ymyraethau byw'n iach.
Prosiectau
Arlwyo Iachach o fewn Canolfannau Hamdden, Gwerthusiad o'r Fenter Beilot
Cynllun i uno mentrau bwyta'n iach a gweithgaredd corfforol, lle fo'n briodol, o dan y term ymbarél “Bwyd a Ffitrwydd”. Cyfrannodd y cynllun peilot at yr ymrwymiad a amlinellir yn y “Cynllun Gweithredu Bwyd a Ffitrwydd” ac mae'n adlewyrchu gweledigaeth Her Iechyd Cymru.
Cleient: Llywodraeth Cynulliad Cymru – Adran Iechyd y Cyhoedd a'r Proffesiynau IechydAnsawdd Bwyd
Darn o waith i lunio a dadansoddi ymgynghoriad cyhoeddus o'r ‘Strategaeth Ansawdd Bwyd’. Cynhyrchwyd y strategaeth “i ddatblygu a chyflwyno strategaeth “Ansawdd Bwyd” eang ar gyfer ymgynghori er mwyn gwella ansawdd y bwyd sy'n cael ei fwyta yng Nghymru.”
Cleient: Llywodraeth Cynulliad Cymru – Adran Iechyd y Cyhoedd a'r Proffesiynau IechydAstudiaeth hydredol o gyfranogiad yng Nghynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff ym Mwrdeistref Fulham a Hammersmith, Llundain
Gwerthusiad o brosiect peilot 15 mis o hyd yng Ngorllewin Llundain yn mesur buddion iechyd a lles cyfranogi mewn Rhaglen Atgyfeirio Ymarfer Corff.
Cleient: Bwrdeistref Hammersmith a Fulham LlundainGwerthusiad o Ganolfan Byw'n Iach Brunswick - Leamington Spa
Canolfan Brunswick oedd prosiect conglfaen partneriaeth adfywio ‘Hen Dref' Leamington.
Cleient: Cyngor Cylch WarwickCanolfan Byw'n Iach Abertawe - Gwerthusiad Dros Dro a Strategaeth Ymlaen
Gwerthusiad yn canolbwyntio ar sefydlu set gadarn o fesurau a dangosyddion a oedd yn mesur llwyddiant y prosiect hwn a'i effaith net ar godi iechyd y gymuned leol. Roedd y gwaith canlyniadol yn gosod y llwyfan ar gyfer datblygu dewisiadau strategaeth ymlaen wrth i'r prosiect symud tuag at ei gyfnodau ariannu terfynol.
Cleient: Cyngor Dinas AbertaweGwerthusiad o Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Camden ac Awdurdod Iechyd Gogledd Llundain – gwerthusiad o Ganolfan Byw'n Iach Cronfa Cyfleoedd Newydd Kings Cross
Wedi'i leoli ger Kings Cross, mae gan y Ganolfan Byw'n Iach boblogaeth heb gartref penodol o bob cwr o'r byd, cyfradd camddefnyddio cyffuriau uchel a chyfradd puteindra uchel oherwydd cyffuriau, cyfradd uchel iawn o boblogaethau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac yn ychwanegol, poblogaeth fawr o bobl ddigartref. I'r gwrthwyneb, yng ngofod gwyrdd a thawel Caeau Coram, darparodd y Ganolfan Byw'n Iach ganolfan wych ar gyfer gwaith allgymorth gyda nifer o grwpiau o bobl a oedd wedi'u hallgau'n gymdeithasol ac wrth risg.
Cleient: Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol CamdenArolwg o Gyfranogiad Chwaraeon a Hamdden ymhlith y rhai rhwng 11 a 16 mlwydd oed yng Nghymru
Mae canlyniadau'r arolwg hwn wedi'u defnyddio i osod polisi ar lefel genedlaethol ac ar lefel awdurdod lleol, ac er mwyn asesu effeithiolrwydd y mentrau cyfredol tuag at hyrwyddo cyfranogiad mewn ymarfer a byw'n iach
Cleient: Cyngor Chwaraeon Cymru