Wavehill Consulting

Ymchwil a Gwerthuso yn Seiliedig ar Dystiolaeth

Wavehill Consulting

Site navigation

Croeso

Mae Wavehill yn arbenigo mewn ymchwil gymdeithasol ar sail tystiolaeth, gwerthuso a datblygiad economaidd. Mae gan y cwmni swyddfeydd yn Llundain a gorllewin Cymru, a 15 mlynedd o brofiad o weithio gyda’r sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat o fewn ardaloedd gwledig a threfol ar draws y DU ac yn Ewrop.

Meysydd arbenigedd:

  • Cymuned
  • Plant a Phobl Ifanc
  • Byw’n Iach
  • Dysgu, Sgiliau a Diweithdra
  • Adfywio Trefol a Gwledig
  • Busnes a Menter

Y gwasanaethau a ddarperir:

  • Gwerthuso
  • Datblygu Strategaeth
  • Arolwg ac Ymchwil
  • Offer a Hyfforddiant
  •  
     

Un o brif gryfderau Wavehill yw ein tîm cyfweld mewnol hynod brofiadol sy'n eithriadol o fedrus wrth gynnal amrywiaeth o ymchwil economaidd-gymdeithasol mawr a bach gan gynnwys arolygon ffôn, post, e-bost, drws-i-ddrws ac ar y stryd. Yn wahanol i lawer o gwmnïau ymgynghori ar ymchwil, nid yw Wavehill yn cyflogi ymchwilwyr na gweithwyr maes ar sail untro / fesul prosiect. Gan hynny mae ein cyfwelwyr yn rhan wirioneddol o’n tîm, ac nid ydynt yn set o unigolion nad oes gennym unrhyw reolaeth na dylanwad gwirioneddol drostynt. Mae hyn yn gwella’n sylweddol ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i’r Cleient.

Mae dwyieithrwydd yn ganolog i hyrwyddo amrywiaeth a sicrhau cyfle cyfartal. Gan hynny mae Wavehill yn defnyddio arfer gorau dwyieithog yn ein holl waith maes yng Nghymru. Wrth gasglu gwybodaeth gan unigolion neu sefydliadau, teimlwn ei bod hi’n hanfodol bod pobl yn cael dewis defnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg.

Trosi ymchwil a gwerthuso yn weithred yw’r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae Wavehill yn gwneud mwy na dim ond trosglwyddo’r data. Rydym yn chwarae rhan wrth gynllunio camau gweithredu, dylanwadu ar bolisi a strategaeth, cynllunio offer ar gyfer y gwaith a hyfforddi sefydliadau i reoli newid.

Copyright © 2010 Ymgynghoriaeth - Telerau ac amodau