Astudiaeth Achos Dysgu a Sgiliau 1
Gwerthusiad o Raglen Beilot Train 2 Gain Cyflogwyr
Profwyd rhaglen Train 2 Gain beilot o dan yr enw Sgiliau Gwerthfawr. Gwahoddwyd Wavehill i asesu a gwerthuso'r rhaglen hon a gwneud argymhellion tuag at y rhaglen genedlaethol.
Nod y prosiectau peilot oedd darparu hyfforddiant hyd at gymhwyster lefel 2 gyntaf neu gymhwyster Sgiliau Oes, Llythrennedd a Rhifedd. Roedd y rhaglenni Peilot yn cynnwys cyfuniad o amser cyflogedig o'r gwaith i hyfforddi, iawndal cyflog i gyflogwyr, hyfforddiant am ddim neu wedi'i gymorthdalu a gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Mae'r Rhaglen Sgiliau Valua£ble yn cynnwys yr elfennau hyn o fewn y broses a gefnogir gan system cyngor busnes a broceriaeth i gyflwyno cwmnïau lleol i'r cyfleoedd sydd ar gael o dan ETP.
Pwysigrwydd gwerthuso prosiectau peilot yw adnabod a yw'r cysyniad yn gweithio, a yw'r model cyflwyno'n gweithio, a phe chyflwynir y rhaglen beilot ar raddfa fwy a fyddai cyfraniad cost/budd yn bositif. Yn yr achos hwn fe wnaethom adnabod cam ymlaen clir yn y defnydd o hyfforddiant a sgiliau ymhlith gweithwyr a gostyngiad yn y rhwystrau tuag at hyfforddiant gan gyflogwyr, a chan hynny roedd y model ar gyfer ehangu yn glir ac fe ellid ei gyfiawnhau.
Cleient: LSC Swydd Derby, Nottingham a Chaerlyr