Wavehill Consulting

"Llwybrau a datblygiad"

Wavehill Consulting

Site navigation

Astudiaeth Achos Dysgu a Sgiliau 2

Llwybrau Hyfforddi Abertawe - Gwerthusiad Diwedd Rhaglen ESF

Gwerthusodd Wavehill fenter llwybrau hyfforddi Abertawe. Mae'r prosiect yma, a ariennir gan yr ESF, yn darparu hyfforddiant arbenigol i bobl ifanc er mwyn sicrhau bod ganddynt sgiliau hyblyg i weithio yn y sectorau preifan a gwirfoddol. Er mwyn gwerthuso effaith y prosiect fe wnaeth Wavehill :-

  • Ymgynghori â chyrff a fyddai'n buddio o sgiliau'r bobl ifanc, parteneriaid a buddiolwyr ;
  • Adolygiad o allbynau, canlyniadau i gleientiau ac adolygiad o fudd ariannol gweithgareddau'r rhaglen;
  • Ymgynghoriad eang yn cynnwys dros 100 o gyfweliadau, a chyfres o ymweliadau ac arsylwadau ar leoliad.

    Yn yr ymchwil yma fe sylweddolom fod angen i'r rhaglen newid y ffordd y cyflwynwyd hyfforddiant i'w fyfyrwyr gan alluogi pobl prysur i fedru ‘dipio’ mewn ac allan or rhaglen astudio pan fyddai rhywbeth yn eu diddori neu pan fyddai amser ganddynt i gymryd rhan. Daeth yn amlwg taw'r ffordd gorau o ddenu a chadw buddiolwyr yn ystod y rhaglen yma oedd cynnig ‘bwydlenni’ hyfforddiant iddynt a fyddai'n ddefnyddiol iddynt yn eu gwaith yn hytrach na gofyn iddynt ymrwymo i gynllun hyfforddiant hirwyntog. Trwy wneud hyn, fe lwyddodd y rhaglen i berfformio'n llawer gwell na'r targedau gwreiddiol a osodwyd gan yr ESF a hyfforddi llawer mwy o bobl na feddyliwyd ar ddechrau'r rhaglen.

    Yn ystod y broses gwerthuso, cynhaliwyd gweithdai a ganolbwyntiai ar ddatblygiadau pellach er mwyn ir darparwyr gwasanaeth ddatblygu strategaethau ‘Lisbon-gyfeillgar’; hynny er mwyn gweld parhad ac estyniad ir rhaglen trwy gydgyfarfod.

Roedd hyn yn cynnwys sesiwn ar osod amcanion, nodau,cynllunio strategol, datblygu fframwaith perfformiad a hunan-werthuso.

Cleient: Cyngor Dinas Abertawe

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau