Dysgu a Sgiliau
“Fe wnaeth proffesiynoldeb Wavehill, eu gallu i amgyffred materion yn gyflym a'u hymwybyddiaeth o'r sector ôl 16 roi hyder cyflawn i'r rheolwr cytundeb yn yr ymgynghorwyr a oedd yn cynrychioli'r Cynulliad wrth ddelio â'u huwch gynrychiolwyr, e.e. Prif Weithredwyr a Phenaethiaid y sefydliadau cyfranogi”
Mae Wavehill wedi gweithio ar bob lefel o'r sector dysgu yn amrywio'r holl ffordd o addysg cyn ysgol i ddysgu parhaus i oedolion.
Rydym wedi sefydlu ein hunain fel darparwyr gwasanaethau ymgynghori allweddol i gyrff sy'n gysylltiedig â datblygu polisi, rheoli strategol a chyflwyno dysgu a sgiliau.
Mae ein gwaith diweddar wedi cynnwys cysylltu dysgu cymunedol gydag anweithgarwch economaidd, ac adfywio ardal ehangach. Ar hyn o bryd rydym yn gwerthuso nifer o brosiectau sydd wedi'u cynllunio i ostwng dadrithiad ac ymddieithriad ymhlith grwpiau dysgu allweddol, ac yn fwyaf nodedig pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Prosiectau
Lefel Sgiliau Uwch
Gwerthusiad o'r ‘Sgiliau Lefel Uwch’ a ariannir gan LSC gyda'r pwyslais ar sawl mater gan gynnwys codi ymwybyddiaeth, argymhelliad ar gyfer system ansawdd er mwyn i'r bartneriaeth ei symud ymlaen ac adnabod arfer gorau ar gyfer y dyfodol.
Cleient: Community Learning and Skills Service (CLaSS)Gwerthusiad o Ganolfan Dysgu Cymdogaeth Merthyr a Bridges to Work
roedd y ddau ddarn o waith hwn yn cynnwys rhaglenni a oedd yn gweithio'n arbennig o dda gyda phobl ifanc o ystod o gefndiroedd a oedd wedi ymddieithrio, wedi dadrithio neu wrth risg o wneud hynny.
Cleient: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr TudfulCydraddoldeb yn y Gweithle – Workforce Futures
prosiect peilot a ariannwyd o dan ESF EQUAL i archwilio'r dulliau i hyrwyddo cydraddoldeb cynyddol yn y gweithle, gan ganolbwyntio'n arbennig ar Ddatblygu Sgiliau o fewn Busnesau Bach a Chanolig.
Cleient: Partneriaeth EQUAL De LlundainGwerthusiad o Brosiect Ieuenctid yn Gyntaf
Cynllun sy'n cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sydd wrth risg, neu sydd eisoes wedi'u hallgau o gymdeithas yn Sir Gâr, Gorllewin Cymru. Cynlluniwyd ein methodoleg i fod mor gynhwysol â phosibl ac fe wnaethom ymgynghori'n llwyddiannus gydag ymron i 200 o bobl ifanc a oedd wedi'u cefnogi gan y cynllun ynghyd â'r rheolwyr rhaglen a'r timau cyflwyno.
Cleient: Cyngor Bwrdeistref Sirol CaerfyrddinGwerthusiad o Raglen Beilot Train 2 Gain
Comisiynodd Wavehill astudiaeth i gefnogi gwerthusiad ehangach o'r rhaglen beilot Sgiliau Gwerthfawr gan Beilot Hyfforddi Cyflogwyr. Hwn oedd y prosiect peilot ar gyfer y rhaglen Train 2 Gain sydd bellach yn cael ei defnyddio ar draws Lloegr.
Cleient: LSC Swydd Derby, Nottingham a ChaerlyrGwerthusiad o Raglen Ddysgu Gymunedol Dysgu Gyda'n Gilydd
Rhaglen a oedd yn targedu grwpiau anodd eu cyrraedd targedig a rhai nad ydynt yn dysgu'n draddodiadol o fewn cymunedau gwledig trwy ddefnyddio ‘animateurs’ cymunedol neu gydlynwyr cymunedol.
Cleient: Prifysgol AberystwythLlwybrau Hyfforddi Abertawe
Gwerthusiad o brosiect a ariannwyd gan ESF sydd wedi bod yn darparu hyfforddiant arbenigol i feithrin gallu a sgiliau ymhlith pobl sy'n gweithio gyda phobl ifanc yn y sectorau gwirfoddol ac anstatudol.
Cleient: Cyngor Dinas AbertaweYmgynghoriad Rhanddeiliaid: Cydnabod a Gwobrwyo Rhagoriaeth o fewn Dysgu Ôl 16 yng Nghymru
– “archwilio barnau a safbwyntiau darparwyr a sefydliadau cynrychiadol ar adnabod a gwobrwyo rhagoriaeth o fewn addysg bellach, dysgu cymunedol ac yn y gwaith, er mwyn hysbysu datblygu strategaeth.” Ymgymerwyd ag ymchwil er mwyn galluogi i APADGOS baratoi Rhaglen a fyddai'n cynyddu ansawdd a bodloni anghenion ar ddod sefydliadau sy'n cyflwyno addysg bellach a hyfforddiant, yng ngoleuni cyfarwyddebau polisi ar ddod.
Cleient: APADGOS