Newyddion wedi'u Harchifo
Gwerthusiad o Gynllun Busnes Gwledig Abertawe 1 2008-2011
Y Cynllun Datblygu Gwledig yw un o'r prif raglenni Ewropeaidd sy’n weithredol yng Nghymru rhwng 2007 a 2013 a chaiff ei ddarparu drwy nifer o bartneriaethau lleol, ac mae un ohonynt yn cynnwys ardaloedd gwledig Abertawe. Mae Wavehill wedi ei gomisiynu i gynnal gwerthusiad parhaus ar brosiectau sy'n cael eu darparu fel rhan o strategaeth y Cynllun Datblygu Gwledig lleol yn Abertawe, gan gynnwys gweithgareddau yn y sectorau twristiaeth ac amaeth-bwyd yn ogystal â chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc yr ardal.
Sgiliau ar gyfer Logisteg – Arolwg Cyflogwyr
Comisiynwyd Wavehill i gynnal arolwg busnes o 4,500 o gyflogwyr logisteg ledled y DU, er mwyn pennu’r trefniadau hyfforddiant a datblygu staff ar draws y sbectrwm cwmnïau cludiant, warysau, bothau logisteg, porthladdoedd, dociau cargo, cwmnïau cludo a llawer o rai eraill.
Defnyddiwyd yr arolwg i ddynodi ysgogwyr a rhwystrau allweddol i’r defnydd o hyfforddiant, ac i archwilio’r berthynas rhwng amodau economaidd, hyfforddiant statudol, hyfforddiant dewisol, ac a yw’r hyfforddiant yn cyflawni enillion effeithlonrwydd a phroffidioldeb.
Dadansoddodd y dull a ddefnyddiwyd dueddiadau yn ôl cenedl y DU a rhanbarth RDA y Llywodraeth ac roedd yn cynnwys cymorth sylweddol gyda phwysoli a dadansoddi data ar gyfer y tîm Sgiliau ar gyfer Logisteg.
SAVY
Mae SAVY yn brosiect a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n gweithio gyda phobl ifanc dan anfantais 16-25 oed yn bennaf yn Nhorfaen, Cymru gan ddefnyddio ystod o ddulliau arloesol i’w helpu i ddatblygu sgiliau ac ennill cymwysterau ac i’w paratoi ar gyfer dysgu pellach, hyfforddiant a gobeithio, chyflogaeth.
Nod gwerthusiad Wavehill yw pennu sut mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol, nid yn unig ar y bobl ifanc mae’n eu cefnogi ond hefyd ar gyflwyno’r gwasanaeth a gweithio mewn partneriaeth. Yn unol â’r dulliau gwerthuso arloesol diweddaraf, mae’r dull a ddefnyddir gan Wavehill yn cynnwys hyfforddi nifer o bobl ifanc (y mae pob un ohonynt yn dod o’r prosiect) fel ‘gwerthuswyr cyfoed’ i gynnal arolwg o bobl ifanc eraill sydd wedi cael budd o’r prosiect.
Gwerthusiad o Wythnos Bysgod Sir Benfro
mae Wavehill ar hyn o bryd yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro i gwblhau gwerthusiad o wyl flynyddol Wythnos Bysgod Sir Benfro eleni yn seiliedig ar y thema 'Pysgod' sy'n anelu at ddenu twristiaeth i'r ardal ar ddechrau’r tymor brig yn niwedd mis Mehefin. Gyda'i is-bennawd 'Gwyl Hynod o Bysgodlyd', mae'n wyl unigryw sy'n cynnwys busnesau a lleoliadau ledled sir Benfro, gan fod â’r potensial i ddod â budd economaidd i'r gymuned leol. Bydd canlyniadau'r gwerthusiad hwn yn cynorthwyo'r cyngor i sicrhau nawdd a chefnogaeth ariannol bellach er mwyn sicrhau fod Wythnos Bysgod Sir Benfro yn parhau yn y dyfodol.
Astudiaeth i Gefnogi Gwyliau, Digwyddiadau a'r Diwydiannau Diwylliannol ym Mhowys
mae Glasu, sef corff a ariennir yn rhannol drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2008 i 2013, yn ddiweddar wedi cyflogi Wavehill i ymchwilio, casglu data a dadansoddi’n strategol dri maes o weithgarwch, sef gwyliau a digwyddiadau, y diwydiannau diwylliannol a’r diwydiannau creadigol ym Mhowys.Monitro a Gwerthuso Unigolion sydd wedi Dechrau Masnachu
yn ddiweddar mae Wavehill wedi cwblhau arolwg o fwy na 6,400 o unigolion sydd wedi defnyddio gwasanaeth cyn-cychwyn dim-twf ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn dechrau eu busnes eu hunain yng Nghymru, fel rhan o'r rhaglen gwasanaeth Dechrau Busnes a ddarperir gan Lywodraeth y Cynulliad. Cwblhawyd yr arolwg hwn yn ystod mis Mawrth ac Ebrill eleni, a llwyddodd Wavehill i gael cyfradd llwyddiant o 76%, sef y ganran uchaf a gyflawnwyd ers dechrau gwerthuso’r rhaglen hon.