Beth sy’n Newydd
Wavehill yn Sicrhau Gwobr Iechyd Gweithle Bach
Roedd Wavehill yn falch o gael eu cyflwyno â’r Wobr Iechyd Gweithle Bach agoriadol yn ddiweddar gan y cyfarwyddwr cenedlaethol dros waith ac iechyd, y Fonesig Athro Carol Black.
Y wobr hon yw’r marc safon cenedlaethol newydd ar gyfer iechyd a lles yn y gweithle, i fusnesau a sefydliadau sy’n cyflogi llai na 50 o bobl.
Tynnu Sylw at Waith Wavehill i’r Gronfa Loteri Fawr
Yn ddiweddar, tynnwyd sylw at waith Wavehill wrth werthuso rhaglen Pobl a Lloedd y Gronfa Loteri Fawr yn rhan ‘gwersi gwerthuso’ y cylchgrawn Regeneration & Renewal.
I gael manylion llawn yr erthygl ewch i:
Yn ddiweddar, dewiswyd cynnwys Wavehill ar Fframwaith Ymchwil a Datblygu’r Ymgynghoriaeth Learning and Skills Improvement Service
Daeth y Learning and Skills Improvement Service (LSIS) i weithrediad ar 1 Hydref 2008 fel y corff gwella dan arweiniad sector newydd ar gyfer y system addysg bellach yn Lloegr. Fe’i ffurfiwyd yn sgil trosglwyddo busnesau’r Asiantaeth Gwella Ansawdd (QIA) a’r Ganolfan Rhagoriaeth mewn Arweinyddiaeth (CEL). Rôl LSIS yw gweithio gyda’r sector i gefnogi gwella ansawdd, codi safonau a datblygu staff ac arweinwyr.
Mae LSIS yn gweithio trwy gomisiynu cynhyrchion a / neu wasanaethau – i’w darparu gan sefydliadau ‘cyflenwi’ – a ddyluniwyd i gefnogi gwella ansawdd ar draws y system AB (‘y sector’).
Trowch at http://www.lsis.org.uk/LSISHome.aspx i gael mwy o wybodaeth.
Cyhoeddi papur a ysgrifennwyd ar y cyd gan Uwch Ymgynghorydd Wavehill, Andrew Davies ar safbwyntiau plant Cymru ar Lywodraeth a chyfranogiad.
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd papur a ysgrifennwyd ar y cyd gan Andrew Davies o Wavehill sy’n seiliedig ar ymchwil i archwilio agweddau ar safbwyntiau plant Cymru ar lywodraeth a chyfranogiad yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymchwil yn 2001 gyda 105 o blant 8-11 oed o sampl amrywiol o chwech ysgol ledled Cymru. I ddechrau, mae’r erthygl yn adrodd ynghylch canfyddiadau plant ar wahanol lefelau (a lleoedd) o lywodraeth: senedd y DU a’r Cynulliad Cenedlaethol. Yn ail, ceir trafodaeth ar sut mae plant yn ystyried y mae’r llywodraeth yn effeithio ar eu bywydau. Yn dilyn hynny, mae’r papur yn cyflwyno safbwyntiau’r plant ar y graddau y dylent gael dweud eu dweud mewn penderfyniadau gwleidyddol lleol a chenedlaethol, gyda’r enghreifftiau’n cynnwys adeiladu ffordd newydd yn eu cymuned a mynd i ryfel. Er y dangosodd y plant ddiffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol, gwnaethant gymryd rhan yn frwd wrth drafod materion penodol y gwelsant eu bod yn effeithio ar eu bywydau. Roedd disgwyliad cyffredinol y dylid ymgynghori â nhw ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt a gwelsant y potensial i fwydo’u safbwyntiau i wneud penderfyniadau trwy gyfryngwyr. Fodd bynnag, ychydig iawn oedd yn disgwyl i’w safbwyntiau eu hunain fod yn bendant, ond yn hytrach credai’r rhan fwyaf y dylai eu safbwyntiau gael eu hystyried ochr yn ochr â rhai pobl eraill.