Wavehill Consulting

Ymchwil a Gwerthuso yn Seiliedig ar Dystiolaeth

Wavehill Consulting

Site navigation

Newyddion

Diweddar

Gwerthusiad o'r prosiect 'Mynediad i Wasanaethau drwy Arloesi'

 Mae Wavehill wedi cael eu comisiynu gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i gynnal gwerthusiad o'r cynllun dwy flynedd a ariannwyd gan Echel 4 y Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer Cymru. Roedd y prosiect yn peilota modelau arloesol ar gyfer darparu cymunedau gwledig gydag ystod o wasanaethau sylfaenol gan gynnwystrafnidiaeth, gofal plant, TGCh, gwasanaethau manwerthu cymunedol a gwasanaethau eraill.



Dysgu oddi wrth Prosiect Ynni'r Fro

 Mae Rhaglen Ynni'r Fro Llywodraeth Cynulliad Cymru  yn defnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i ddarparu cefnogaeth a chyllid er mwyn annog datblygiad cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa cymunedol ar draws Cymru. Mae rhwydwaith o Swyddogion Datblygu technegol yn lleol ar waith ledled Cymru i helpu grwpiau i ddatblygu eu prosiectau a chael gafael ar ffrydiau cyllid Ynni'r Fro. Mae gan y Swyddogion Datblygu gronfa o wybodaeth am y cymunedau y maent wedi gweithio gyda hwy a diben yr ymchwil hwn oedd casglu’r wybodaeth honno. Roedd yr ymchwil yn cynnwys cyfweliadau manwl gyda Swyddogion Datblygu a wedyn gweithdy a oedd yn eu tynnu at ei gilydd i drafod eu profiadau.



Prosiect Ymchwil heb Waith

 Comisiynwyd Wavehill ym mis Ionawr 2011 i gynnal adolygiad ymchwil o effaith y polisi O Fudd-dâl i Waith  newydd ar aelwydydd di-waith ym Mlaenau Gwent, Merthyr Tudful, a Rhondda Cynon Taf. Nod y gwaith yw nodi darpariaeth gwasanaeth presennol ar gyfer teuluoedd di-waith ac sy'n agored i niwed yn y tair ardal, yn nodi manylion y gwasanaethau a'r cymorth a ddarperir, asesu arferion da a bylchau yn y gwasanaeth, nodi pa gyfran o deuluoedd di-waith / sy'n agored i niwed sy’n chwilio am waith ar hyn o bryd, a darparu enghreifftiau wedi’u costio o arfer yn y dyfodol ar gyfer yr ardal. Gan ddefnyddio cyfweliadau gyda rhanddeiliaid strategol, darparwyr cymorth a buddiolwyr mae’r gwaith yn anelu at ddarparu strategaeth fanwl ar gyfer darparu yn y dyfodol ac opsiynau wedi'u costio ar gyfer ymestyn y gwasanaethau a chymorth presennol.



Gwerthuso Effaith y rhaglen Ffordd o Fyw Gweithgar

mae Wavehill yn arwain y gwerthusiad ar y rhaglen Ffordd o Fyw Gweithgar ar gyfer Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid. Mae’r prosiect newydd cyffrous hwn am helpu i fynd i'r afael â phroblem gordewdra’r genedl drwy gynyddu faint o chwaraeon a gweithgarwch corfforol y mae ein pobl ifanc lleiaf gweithgar yn ei wneud bob wythnos. Byddwn yn cyfweld â phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau, eu hyfforddwyr a'r ysgolion hefyd. Mae'r astudiaeth yn rhedeg tan fis Ionawr 2011.


Prosiect COASTAL

penodwyd Wavehill gan Ddinas a Sir Abertawe i gynnal gwerthusiad annibynnol parhaus ar COASTAL, sef prosiect £27m sydd â’r nod o hyrwyddo cyngor galwedigaethol, cyflogaeth, hyfforddiant sgiliau a chyfleoedd dysgu gydol oes i unigolion sydd ar hyn o bryd yn economaidd anweithgar. Caiff COASTAL ei ariannu gan Raglen Gydgyfeirio’r Comisiwn Ewropeaidd ac mae’n brosiect rhanbarthol ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, Gwynedd, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion.


Datblygu Gwaelodlin ar gyfer Gweithgareddau Adfywio yn Ardaloedd Dyffryn Hafren a Blaenau Ffestiniog

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi Wavehill i ddatblygu gwaelodlinau cynhwysfawr ar gyfer Dyffryn Hafren a Blaenau Ffestiniog, gan ganolbwyntio ar ganfyddiadau cymunedol yn y ddwy ardal. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu darlun clir o farn y cymunedau am yr ardaloedd ar hyn o bryd, cyn y gweithredir y prosiectau allweddol ar gyfer y cyhoedd sydd yng Nghynllun Adfywio Strategol Dyffryn Hafren a Chynllun Adfywio Strategol Blaenau Ffestiniog. Y bwriad fydd edrych eto ar y gwaelodlinau hyn yn y dyfodol, gan ymgymryd â gwaith arolwg ychwanegol i asesu sut y mae canfyddiadau wedi newid dros amser o ganlyniad i'r broses Adfywio.


Adolygiad o Gymorth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu Wavehill a BMG Research i gynnal adolygiad ar y cymorth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a gynigir i fusnesau bach a chanolig Cymru fel rhan o'r gwasanaeth Cymorth Hyblyg i Fusnes (FS4B). Diben yr adolygiad hwn yw gwerthuso effeithiolrwydd 2.5 diwrnod o gymorth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac i weld a yw’r newid o 4.5 diwrnod o gymorth i 2.5 diwrnod yn diwallu anghenion busnesau bach a chanolig Cymru.

 

Gwerthusiad o'r Prosiect ILM

mae Wavehill wrthi’n gwerthuso’r prosiect Marchnad Lafur Drosiannol (ILM) a ariennir o dan Flaenoriaeth 2 Thema 1 y rhaglen Cydgyfeirio a Chystadleurwydd Rhanbarthol a Chyflogaeth ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Nod y prosiect ILM yw lleihau anweithgarwch economaidd yng Ngogledd a Dwyrain Cymru gan gynnig contractau i sefydliadau sy'n darparu datblygiad personol i bobl sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth drwy roi cyfnod o gyflogaeth a hyfforddiant gyda chefnogaeth iddynt. Fel rhan o'r gwerthusiad byddwn yn asesu a yw’r prosiect yn llwyddiannus wrth gyrraedd yr unigolion sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur.


Gwerthusiad Parhaus o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru

dyfarnwyd y contract hwn yn ddiweddar i Wavehill, mewn partneriaeth ag EKOS a’r Cwmni Datblygu Gwledig, ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r amcanion ymchwil ar gyfer y comisiwn hwn yn cynnwys adolygu'r gweithdrefnau casglu data presennol ar gyfer dangosyddion mewnbwn ac allbwn ac i ddarparu cyngor arbenigol ar weithgarwch gwerthuso ad-hoc.


Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau