Astudiaeth Achos Adfywio 1
SRB Parc Wembley Cylch 2
Cynhyrchodd Wavehill werthusiad terfynol ar gyfer rhaglen Cyllideb Adfywio Sengl Cylch 2 (SRB2) Parc Wembley ar ran Bwrdeistref Brent, Llundain.
Roedd y gwerthusiad yn adolygu rhaglen SRB2 Parc Wembley er mwyn helpu i hysbysu datblygu gweithgareddau adfywio yn y dyfodol, ac yn benodol esblygu ‘Destination Wembley programme’ (SRB6).
Roedd y gwerthusiad yn anodd ac yn sensitif ac yn adlewyrchu datblygiadau gwleidyddol ac ariannol arwyddocaol a oedd yn effeithio ar nodau ac amcanion gwreiddiol y cynlluniau. O bwys arbennig yr oedd oediadau ym mhenderfyniadau'r llywodraeth yn ymwneud ag ailadeiladu'r stadiwm Genedlaethol a chostau cynyddol ddilynol y datblygiadau isadeiledd a oedd yn cyfyngu ar fuddsoddiad.
Arweiniodd yr oedi hefyd at ail-alinio prosiectau hyfforddi a chyflogaeth i ddarparu cefnogaeth gyffredinol i ddod o hyd i swyddi a hyfforddiant yn hytrach na chefnogaeth benodol i gynorthwyo cwmnïau newydd a gweithwyr yr oedd disgwyl iddynt symud i'r ystâd (fel datblygiadau deillio o Stadiwm Genedlaethol newydd).
O ganlyniad i'r effeithiau hyn daeth rhaglen SRB2 Parc Wembley yn llawer llai yn nhermau gwariant. Diwygiwyd cyllideb wreiddiol o £138.5 miliwn SRB i £47.2 miliwn. Y canlyniad cyffredinol oedd rhaglen a oedd yn radical o wahanol i'r cynllun gwreiddiol.
Er gwaethaf hyn roedd y rhaglen yn gallu cyflawni mwyafrif helaeth ei hallbynnau targed a ragwelwyd yn wreiddiol.
Cleient: Bwrdeistref Brent, Llundain