Astudiaeth Achos Adfywio 2
Canol Camden - SRB
Penodwyd Wavehill gan Bartneriaeth Ganolog Camden i ymgymryd â gwerthusiad canol tymor a chynhyrchu datblygiad strategaeth ymlaen ar gyfer Cynllun Cyllideb Adfywio Sengl Cylch 6 yn ardal Ganol Camden (“All Change in Camden”).
Roedd yr adroddiad terfynol canlyniadol yn bodloni'r amcanion a ganlyn:
Asesu a oedd amcanion y Rhaglen yn cael eu cyflawni, ac i ba raddau;
Asesu a oedd y prosiectau a gymeradwywyd wedi'u cynllunio'n addas i fodloni amcanion y Bartneriaeth;
Adnabod arfer da a'r gwersi a ddysgwyd ar gyfer lledaenu ehangach;
Hysbysu'r strategaeth ymlaen
Ystyriwyd strategaeth ymlaen gynhwysol Wavehill gan y Bartneriaeth fel yr agwedd bwysicaf o'r gwerthusiad, yn enwedig gan fod y Cynllun wedi cyrraedd y pwynt hanner ffordd hanfodol. Roedd yr arweiniad a ddarparwyd yn yr adroddiad yn amhrisiadwy wrth hysbysu'r strategaeth ar gyfer y blynyddoedd sy'n weddill ar Gynllun SRB Partneriaeth Ganol Camden a gweithgaredd adfywio yn yr ardal.
Ar ôl ystyried, o fewn y cytundeb hwn fe ddaethom yn dîm strategol gwirioneddol, yn awgrymu, yn profi ac yna'n rhyddhau amryw ddewisiadau strategol a fyddai'n effeithio ar y rhaglen yn symud ymlaen a throsglwyddo'r dewisiadau hyn yn ôl i'r rheolwyr eu cyflwyno. Yn yr achos hwn fe wnaethom symud o fod yn werthuswr i bartner strategol yn ystod y prosiect gwerthuso.
Cleient: Partneriaeth Ganol Camden