Adfywio
“Nid yn unig y cafodd y gwerthusiad ei osod yng nghyd-destun y rhaglen gyffredinol ond fe wnaeth Wavehill hefyd sicrhau bod dyfnder a chwmpas y gwerthusiad yn ddigon cadarn. Roedd hyn yn ychwanegu gwerth at y broses werthuso gyffredinol ac fe'i hadlewyrchwyd hefyd yn y diweddariadau a'r sylwadau dros dro a oedd o safon uchel”
Mae ein gwybodaeth drylwyr a phrofiad o fewn y sector adfywio i'w gweld yn ein hanes dihafal. Mae Wavehill yn deall bod adfywio yn ymwneud â datblygu pobl, datblygu isadeiledd corfforol ac ysgogi menter, mae gennym brofiad helaeth ym mhob un o'r ardaloedd hyn yn amrywio o effaith stadiwm newydd Wembley, ymyraethau marchnad lafur a gwerthusiad o gynlluniau datblygu menter.
Prosiectau
Rhaglenni SRB Parc Wembley a Chanol Wembley
Gwerthusodd Wavehill lwyddiant ac effeithiau adfywio datblygiad Stadiwm Wembley, gan roi ystyriaeth i'r oediadau i'r Stadiwm a dderbyniodd gyhoeddusrwydd mawr ar gyfer Bwrdeistref Brent yn Llundain.
Cleient: Bwrdeistref Brent, LlundainGwerthusiad Terfynol AvenCentral SRB6
Gwerthusiad i adnabod a chofnodi cynnydd a llwyddiannau rhaglen, dros 60 prosiect, er mwyn tynnu sylw at lwyddiannau a'r gwersi a ddysgwyd.
Cleient: Partneriaeth Adfywio AvenCentral‘Pathways to Inclusion’ West Redcar
Rhaglen a yrrwyd gan ffactorau strategol ac enghraifft o adfywiad o'r brig i lawr. Fe wnaeth y rhaglen hefyd gyflwyno nifer fawr o brosiectau llai, yr adnabuwyd nifer ohonynt trwy'r Fforymau Ward a'u hariannu trwy fuddsoddiad cymunedol.
Cleient: Cyngor Bwrdeistref Redcar a ClevelandBarrow-in-Furness Heart of Barrow – Building Bridges
Gwerthusiad i bennu cyflawniad cyffredinol y rhaglen Building Bridges yn erbyn y ddwy egwyddor y seiliwyd y rhaglen arnynt i ddechrau - amrywio'r economi er mwyn creu cyflogaeth gynaliadwy a sefydlogi cymunedau difreintiedig.
Cleient: Cyngor Bwrdeistref BarrowGwerthusiad Canol Tymor Sunderland ‘Connecting Communities’ SRB 6
Roedd y cais ar gyfer y Rhaglen hon yn llwyddiannus wrth sicrhau grant gwerth £10.5 miliwn o dan Gylch 6 y Gyllideb Adfywio Sengl. O'r grant hwnnw roedd £9 miliwn ar gyfer ardal Cynnig daearyddol, roedd £1 miliwn wedi'i dargedu at fenter meithrin gallu ar draws y Ddinas ac roedd £500 mil ar gyfer Regeneration Exchange North.
Cleient: Cyngor Dinas SunderlandAsesiad Effaith Busnesau Bach, Ardal Graidd Caerlyr (2004-2005)
Gwerthusiad i asesu effaith gyffredinol y cynllun ar yr ardal a phreswylwyr yr ardal, ac i asesu a oedd amcanion gwreiddiol y cynllun wedi'u bodloni.
Cleient: Cyngor Dinas CaerlyrThe Diamond of Opportunity Gateway to Bolsover – Gwerthusiad Tymor Olaf SRB a Strategaeth Ymlaen
Gwerthusiad o raglenni Mansfield Diamond Partnership SRB1 a SRB4. Roedd y briff yn gofyn am werthusiad o lwyddiannau'r cynlluniau er mwyn cyfiawnhau gwariant cyhoeddus ac adnoddau eraill a amsugnwyd, a lledaenu goblygiadau ac arfer da yn y dyfodol ar gyfer y rhaglen adfywio ehangach.
Cleient: Partneriaeth Strategol Lleol Bolsover
Cliciwch yma i weld rhestr gyflawn o'n gwerthusiadau gyda phartneriaethau adfywio