Ein Gwasanaethau
Mae Wavehill yn dwyn ynghyd tîm o ymarferwyr sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat ymroddedig a phrofiadol sydd wedi dod yn ymgynghorwyr ac yn defnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau ar gyfer ystod eang o gleientiaid. Cefnogir yr ymgynghorwyr gan dîm gweithgar o staff swyddfa, cyfwelwyr ffôn, syrfewyr stryd, dadansoddwyr meintiol ac ansoddol, technegwyr TG a hyfforddwyr cymunedol.
Mae dwyn yr holl sgiliau hyn ynghyd o dan un to yn golygu y gallwn gynllunio, gweithredu, casglu data, hyfforddi ac ymgynghori ar gyfer ystod eang o asiantaethau llywodraeth, Awdurdodau Lleol, partneriaethau a sefydliadau cefnogi eraill. Mae hyn yn golygu ein bod yn siop un stop ar gyfer unrhyw brosiect ymchwil barn neu astudiaeth werthuso y bydd eich sefydliad eisiau ei gomisiynu.
Cliciwch ar y dolenni isod am fanylion y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu: