Cynghreiriau Strategol
Mae Wavehill wedi cydweithio gyda'r partneriaid a ganlyn er mwyn darparu rhagoriaeth gwasanaeth ar nifer o'n rhaglenni ymchwil a gwerthuso penodol i sectorau;
Wavehill ac ACORN
Mae ymdriniaeth partneriaeth Wavehill - ACORN yn cyflwyno arolygon cymunedol a phoblogaeth manwl a chywir iawn gyda mwy o fanylion na all hyd yn oed y cyfrifiad eu darparu.
ACORN yw'r offeryn geo-demograffeg arweiniol a ddefnyddir i adnabod a deall poblogaeth y DU a'r galw am gynhyrchion a gwasanaethau. Mae busnesau yn defnyddio'r wybodaeth hon i wella eu dealltwriaeth o gwsmeriaid, marchnadoedd targed ac i bennu lle i leoli eu gweithrediadau.
Mae Wavehill ac ACORN yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno arolygon hynod gywir a manwl ar farn y cyhoedd a defnyddwyr mewn cymunedau ar draws Cymru a'r DU yn gyffredinol. Trwy ddefnyddio tîm cyfweld cymunedol Wavehill a dadansoddi'r canlyniadau yn ôl dosbarthiad ACORN gallwn ddadorchuddio llawer yn fwy o wybodaeth gudd ynghylch cymunedau a phoblogaethau.
Mae Wavehill ac ACORN wedi cydweithio'n llwyddiannus i roi manylion defnydd cymunedol o brif strydoedd ac ardaloedd siopa, patrymau ymarfer corff pobl y DU, a'r tueddiadau a phatrymau iechyd mewn cymunedau.
Wavehill a Royal Haskoning
Mae Wavehill a Royal Haskoning wedi ffurfio cynghrair i ddarparu gwasanaethau uwch gynllun a chynllunio tref ar gyfer awdurdodau lleol ar draws y DU.
Mae Royal Haskoning yn bractis o beirianwyr strwythurol, cynllunio amgylcheddol a phensaernïol mawr a hynod brofiadol, ond nid oes ganddo dîm ymgynghori cymunedol mewnol.
Mae Wavehill yn cynnig cyswllt â chymunedau a grwpiau cefnogi'r trydydd sector sy'n helpu i gefnogi cymunedau ar draws y DU. Mae ein profiad yn sicrhau bod grwpiau anodd eu cyrraedd hefyd yn cael eu cynnwys a'u hystyried o fewn ymarferion tref ac uwch gynllunio.
www.royalhaskoning.com/royal_haskoning/corporate/en-GB/
Wavehill a CMI
Mae CM International yn ymgynghoriaeth o faint canolig sy'n cynnig ymchwil ar sail polisi i gleientiaid llywodraeth yn Ffrainc, Cymru a'r Iwerddon. Mae CMI yn gweithio gyda Wavehill yng Nghymru lle mae ein tîm yn cynnig arbenigedd wrth estyn allan at gymunedau, yn dadorchuddio barn grwpiau anodd eu cyrraedd ac anodd cysylltu â hwy, ac yn cysylltu â'r sector cymunedol a gwirfoddol. Trwy gydweithio mae Wavehill a CMI yn sicrhau bod polisi llywodraeth yn berthnasol i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.