Wavehill Consulting

Datblygu Strategaeth
"Mesurau ansoddol ac esboniadau meintiol"

Wavehill Consulting

Site navigation

Astudiaeth Achos Datblygiad Strategol 2

Manchester City Pride and Stockport Partnership – Ymchwil Cyn Droseddwyr

Roedd yr adroddiad yn archwilio'r materion sy'n perthyn i ymddygiad troseddol a chyn droseddwyr yn nhermau'r rhwystrau y mae cyn droseddwyr yn eu hwynebu, yn nhermau rhwystrau sylfaenol ac eilaidd; y rhwystrau tuag at addysg a chyflogaeth; y gwahaniaethau rhwng profiadau dynion a gwragedd a gwahaniaethau ym mhrofiad ieuenctid ac oedolion.

Fe edrychodd ar Gyd-destun Polisi mesurau i atal troseddu ac ail droseddu ac effeithiau dedfrydu a'r system farnwrol ac mae'n cyflwyno canfyddiadau pum astudiaeth achos lleol.

Prif nodau'r prosiect oedd:

  • Trosglwyddo potensial ein model cyflogaeth dan gymorth llwyddiannus i ystod eang o grwpiau difreintiedig yn ein cymunedau;

  • Cynyddu gallu cyflogwyr i recriwtio a chadw gweithlu amrywiol;

  • Cynhyrchu templed ar gyfer gwasanaethau Welfare to Work ar draws Manceinion.

Mae City Pride yn gweithio'n agos gydag ystod o gyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i adnabod arfer gorau wrth reoli amrywiaeth. Mae'r dysgu hwn yn digwydd trwy gyswllt un wrth un gyda chyflogwyr a ffurfio rhwydweithiau cyflogwyr yn Bury ac yn Stockport.

Fe wnaeth ein gwerthusiad gynorthwyo wrth ddatblygu polisi newydd ar gyfer cysylltu â throseddwyr ar ôl eu rhyddhau a'u cael i ddysgu sgiliau newydd a chysylltu'r sgiliau hynny â chyfleoedd cyflogaeth.

Cleient: Mentrau Manceinion

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau