Wavehill Consulting

Datblygu Strategaeth
"Mesurau ansoddol ac esboniadau meintiol"

Wavehill Consulting

Site navigation

Datblygu Strategaeth – “Mesurau ansoddol ac esboniadau meintiol”

Eich Angen – Tystiolaeth i gefnogi datblygiad eich strategaeth

Rydym yn Darparu – Tystiolaeth ansoddol a meintiol cytbwys

Mae Wavehill yn helpu ein cleientiaid i ddatblygu ymdriniaeth strategol ar sail tystiolaeth ar gyfer eu gweithgareddau yn y dyfodol. Gallwn gynorthwyo gyda dadansoddiadau anghenion a thueddiadau, datblygu strategaeth a chynllunio gweithredol. Mae gennym sylfaen ymchwilio Cymdeithasol ac Economaidd gref, yr ydym yn eu defnyddio i gasglu data i sicrhau bod datblygiad strategol bob amser yn cael ei hysbysu gan dystiolaeth gadarn, gan ganiatáu i strategwyr ac ymchwilwyr adnabod tueddiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n galluogi iddynt gynllunio ar gyfer cyflwyno yn y dyfodol.

Prosiectau

  • Ymgynghoriad Rhanddeiliaid: Adnabod a Gwobrwyo Rhagoriaeth mewn Dysgu Ôl-16 yng Nghymru

    Ymgynghoriad eang yn y sector ôl 16 ar ffyrdd y gellid adnabod a gwobrwyo arfer gwych. Ymgymerwyd â'r ymchwil hwn er mwyn galluogi i APADGOS ddatblygu cynigion strategol a fydd yn codi ansawdd ac yn bodloni anghenion sefydliadau sy'n cyflwyno addysg ôl 16 yng Nghymru.

    Cleient: Llywodraeth Cynulliad Cymru

  • Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi – Astudiaeth Ddichonolrwydd Prentisiaethau Adeiladu

    Bro Ddyfi yw un o ardaloedd mwyaf, mwyaf gwledig a gyda'r boblogaeth siarad Cymraeg uchaf i'w chynnwys yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Mae gan yr ardal nifer o bocedi o amddifadedd, gyda phroblemau gwledig nodweddion o dlodi cudd, mynediad gwael at wasanaethau, ac amodau tai sy'n dirywio.

    Cleient: Llywodraeth Cynulliad Cymru

  • Cyngor Sir Gaerfyrddin – Strategaeth Pobl Hyn

    Fel rhan o ddatblygiad Strategaeth Tai Pobl Hyn yr awdurdod lleol, ymgymerodd Wavehill â rhaglen helaeth o ymgynghori gyda'r grwp dros 45 oed, rhanddeiliaid cymunedol allweddol a darparwyr gwasanaeth.

    Cleient: Cyngor Sir Gâr

  • City Pride and Stockport Partnership – Ymchwil Cyn Droseddwyr

    Adroddiad a oedd yn archwilio'r materion sy'n perthyn i ymddygiad troseddol a chyn droseddwyr yn nhermau'r rhwystrau y mae cyn droseddwyr yn eu hwynebu, yn nhermau rhwystrau sylfaenol ac eilaidd; y rhwystrau tuag at addysg a chyflogaeth; y gwahaniaethau rhwng profiadau dynion a gwragedd a gwahaniaethau ym mhrofiad ieuenctid ac oedolion.

    Cleient: Mentrau Manceinion

  • Astudiaeth Ddichonolrwydd Epping Forest

    Penododd Cyngor Dosbarth Epping Forest Wavehill Consulting i ymgymryd ag Astudiaeth Ddichonolrwydd ar gyfer Beyond Suburbia. Cwblhawyd y gwerthusiad gyda chyfeiriad at Bapur Gwyn Gwledig y Llywodraeth, a'i flaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar draws ardaloedd gwledig y DU. Cynlluniwyd y canfyddiadau a'r argymhellion er mwyn cyfoethogi gwaith y Cyngor Dosbarth yn y gogledd gwledig ac i gefnogi gwaith nifer o grwpiau a phartneriaethau cymunedol yn yr ardal.

    Cleient: Cyngor Dosbarth Epping Forest

  • Tai Hafan - Ymchwil Tai - Bodloni Anghenion Tai a Chefnogi Gwragedd o'r Gymuned Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig sy'n Agored i Niwed yng Ngogledd Cymru

    Darn pwysig o waith ar ran Cymdeithas Tai Hafan, Black Association of Women Step Out (BAWSO, Rhwydwaith Menywod Lleiafrifoedd Ethnig Cymru (MEWN Cymru) a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

    Cleient: Cymdeithas Tai Hafan, Black Association of Women Step Out (BAWSO, Rhwydwaith Menywod Lleiafrifoedd Ethnig Cymru (MEWN Cymru) a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau