Astudiaeth Achos Arolwg ac Ymchwil 2
Gwyliau Cydraddoldeb Lewisham
Nod gwerthusiad Wavehill oedd darparu data ansoddol a meintiol i Gyngor Lewisham ar farnau cymunedau amrywiol Lewisham ar bortffolio cyfredol gwyliau cydraddoldeb a'r dulliau cyflwyno newydd posibl. Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ddarparu tystiolaeth i alluogi gwasanaethau i gyflwyno'r Gwyliau Cydraddoldeb yn unol â'r Cynllun Cydraddoldeb Cynhwysfawr a'r asesiadau effaith cydraddoldeb.
Amlinellir ymdriniaeth strategol Lewisham tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth ym Mholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Cyngor, ‘Creating an Inclusive Lewisham’, a'r Cynllun Cydraddoldeb Cynhwysfawr, 2005-8. Mae'r rhain yn pwysleisio gwerthoedd craidd y Cyngor, ac yn benodol ‘yn tynnu ar amrywiaeth ein cymunedau i greu Lewisham mwy cynhwysol’ a ‘dathlu, parchu a hysbysu amrywiaeth yr hunaniaethau, ffordd o fyw, diwylliannau a chrefyddau o fewn y fwrdeistref’
Roedd y cyngor yn cydnabod hwyrach na fyddai'r rhaglen gyfredol yn bodloni'r anghenion ac yn sgil hynny penderfynwyd comisiynu Wavehill i gynnal ymchwil i mewn i adolygiad o'r rhaglen gwyliau cydraddoldeb.
Ein hymdriniaeth tuag at y briff oedd cymhwyso'r dulliau a ganlyn tuag at sicrhau natur gynhwysol ar draws y gymuned leol:
Sampl ar sail ardal – casglu barnau ar draws gwahanol ardaloedd cymdogaeth.
Cwotâu cyfweld ar sail proffiliau demograffig Cyfrifiad – gosodwyd targedau cyffredinol i sicrhau bod proffil y sampl cyfweld yn cyd-fynd ag un preswylwyr Lewisham;
Ymgymerwyd ag ymgynghoriad manwl er mwyn cael mynediad at a chynnwys barnau rhanddeiliaid, sefydliadau a phreswylwyr y Sector Gwirfoddol a Chymunedol yn Lewisham.
Roedd y canlyniadau yn adnabod yr angen i ystyried posibilrwydd o sut y gallai pwyllgor neu fforwm cynllunio gwyliau gyd-fynd â strategaeth gorfforaethol y cyngor. Byddai strwythur o'r fath yn bodloni nifer o anghenion a adnabuwyd yma, megis:
Cynaladwyedd adnoddau Lewisham sy'n gyfyngedig yn eu hargaeledd
Ymglymiad ystod o sefydliadau
Sicrhau adborth parhaus gan gymunedau amrywiol Lewisham
Yn gyffredinol dangosodd ein hymchwil bod consensws cyffredinol yn Lewisham bod gwyliau cydraddoldeb yn beth da ac ymhellach eu bod yn cyfrannu at synnwyr perthyn y preswylwyr i'r ardal. Yn gyffredinol mae cymysgedd o breswylwyr Lewisham yn mynychu ac yn mwynhau'r gwyliau ond fe allai o bosibl fod o fwy o werth i'r gymuned gyfan trwy weithredu'n barhaus ar farnau preswylwyr a grwpiau cymunedol Lewisham.
Cleient: Bwrdeistref Lewisham Llundain