Arolwg ac Ymchwil Barn- "Yn gwerthfawrogi eich barnau"
Eich angen – casglu barnau eich dinasyddion a'r gymuned
Rydym yn darparu – arolygon arwyddocaol yn ystadegol a chasglu barnau
Mae ein tîm ymroddedig o gyfwelwyr ymchwil yn hynod fedrus wrth gynnal amrywiaeth o fentrau ymchwil cymdeithasol, economaidd a chymunedol ar raddfa fawr a bach.
Nid oes y fath beth â phrosiect nodweddiadol i'n tîm cyfweld; mae ganddynt arbenigedd wrth gysylltu a chasglu barnau o ystod amrywiol o sectorau gan gynnwys:
Grwpiau anodd eu cyrraedd a grwpiau na chlywir eu barnau'n aml
Preswylwyr – Arolygon Lle
Busnesau
Rhanddeiliaid Allweddol
Swyddogion prosiect a staff
Grwpiau Gwirfoddol a Chymunedol
Buddiolwyr unigol
Prosiectau
Arolygon Preswylwyr ac Ymgynghoriad Cymunedol Sir Benfro
Arolwg Preswylwyr graddfa fawr ar gyfer Grwp Cynllunio Cymunedol Sir Benfro er mwyn adnabod blaenoriaethau preswylwyr ar gyfer Cynllun Cymunedol y Sir (2008-13). Roedd yr arolwg yn golygu gweithio'n agored gyda phob un o'r 13 partner Cynllunio Cymunedol i ddatblygu cwestiynau a fyddai'n darparu gwybodaeth strategol i arwain cyfeiriad gwasanaeth cyhoeddus y Sir yn y dyfodol.
Cleient: Cyngor Sir Benfro
Creu Gweledigaeth ar gyfer Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf
Mae Wavehill wedi ymgymryd â gwaith helaeth gyda phartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ar draws Cymru gan gynnwys gwerthusiad o'r Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau ar ran y Cynulliad Cenedlaethol lle wnaeth y canfyddiadau hysbysu datblygiad y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf sydd ar ddod.
Cleient: Llwynhendy, Glanymor a Tyisha, Bro Ddyfi, Sir y Fflint a Threffynnon
Gwyliau Cydraddoldeb Lewisham
Ymgynghoriad i ddarparu data ansoddol a meintiol i'r cyngor ar farnau cymunedau amrywiol Lewisham ar bortffolio cyfredol gwyliau cydraddoldeb a'r dulliau cyflwyno newydd posibl. Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ddarparu tystiolaeth i alluogi gwasanaethau i gyflwyno'r Gwyliau Cydraddoldeb yn unol â'r Cynllun Cydraddoldeb Cynhwysfawr a'r asesiadau effaith cydraddoldeb.
Cleient: Bwrdeistref Lewisham Llundain
Wythnos FISH – Arolwg o agweddau ymwelwyr a busnesau sy'n cymryd rhan yn yr Wyl FISH flynyddol
Adolygiad o agweddau ymwelwyr a busnesau tuag at ddarparu set o gyfeirnodau ar gyfer y tîm gwyl i'w defnyddio i ddatblygu'r strategaeth ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf ac i gefnogi datblygiad Gwyl Bysgod Sir Benfro yn y dyfodol ac annog cynaladwyedd hirdymor.
Cleient: Sir Benfro a Chroeso Cymru
Asesiad Effaith Economaidd ac Arolwg Busnesau Bach Sir Benfro
arolwg o 800 o Fentrau Bach a Chanolig yn Sir Benfro. Y prif nodau oedd darparu data gwaelodlin i'w defnyddio gan Asiantaethau Cefnogi Busnesau a chyrff eraill y sector cyhoeddus er mwyn cynorthwyo dealltwriaeth o'r sefyllfa busnes gyfredol ac anghenion busnesau.
Cleient: Cyngor Sir Benfro
Dinbych y Pysgod – Arolwg o agweddau tuag at Gynllun Pedestreiddio wedi'i arwain gan Dwristiaeth
adolygiad eang o fusnesau, twristiaid, preswylwyr a rhanddeiliaid o'r agweddau tuag at y Cynllun Pedestreiddio ar ôl ymholiad cyhoeddus ar gyfer canol hen dref Dinbych y Pysgod.
Cleient: Cyngor Sir Benfro