Bob Townley
Mae Bob yn arbenigo mewn gweithio ar brosiectau sy'n cynnwys busnes, arolygon busnes, cyflogaeth, sgiliau, hyfforddiant datblygu gweithlu a modelau cyflenwi a galw'r farchnad lafur. Yn ystod y 12 blynedd diwethaf mae wedi cyflwyno ystod eang o brosiectau ymchwil a gwerthuso ac mae hefyd wedi gweithio ar gyfer Prifysgol Kingston, a LEPU (Prifysgol South Bank). Roedd hefyd yn Gomisiynydd Rheoli ar brosiectau ymchwil, strategaeth a gwerthuso ar gyfer TEC De Llundain. Mae ei gleientiaid yn cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd, Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol, Cynghorau Dysgu a Sgiliau, Partneriaethau Datblygu, awdurdodau lleol a phartneriaethau adfywio lleol.
Mae gan Bob radd economeg (MSc) o Ysgol Economeg Llundain yn arbenigo mewn Cysylltiadau Diwydiannol a Rheoli Personél ac mae wedi bod yn benodol gysylltiedig â phrosiectau yn canolbwyntio ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth; gan gyfeirio'n benodol at ddatblygu ymdriniaethau gyda Busnesau Bach a Chanolig. Mae prosiectau diweddar hefyd wedi mynd i'r afael â chefnogi busnesau bach a hyfforddiant/anghenion sgiliau cyflogwyr, gan gynnwys ymchwil i gefnogi gwerthusiad ehangach y Rhaglen Beilot Hyfforddi Cyflogwyr. Mae Bob yn feiciwr brwd ac mae'n treulio rhan fwyaf o'i amser hamdden yn teithio o amgylch Ewrop ar ddwy olwyn.