Wavehill Consulting

Ymchwil a Gwerthuso yn Seiliedig ar Dystiolaeth

Wavehill Consulting

Site navigation

Endaf Griffiths

Yn frodor o Gymru wledig ac yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae Endaf yn weithiwr proffesiynol datblygu economaidd gyda dros un ar ddeg o flynyddoedd o brofiad o arbenigo mewn rheoli, gweithredu a gwerthuso prosiectau adfywio a datblygu a ariannir gan y sector cyhoeddus, yn enwedig o fewn cyd-destun gwledig. Graddiodd Endaf mewn Rheoli Adnoddau Gwledig ac mae wedi ymgymryd â phrosiectau ymgynghori gydag ystod drawiadol o bynciau gan gynnwys gwerthuso rhaglen, asesu effaith, datblygu busnes, adfywio cymuned, datblygu sefydliadol, addysg, ac iechyd a lles yn y gweithle.

Cyn iddo symud i mewn i ymgynghoriaeth, bu Endaf yn gweithio i Awdurdod Datblygu Cymru fel Rheolwr Rhaglenni Gwledig a chan hynny roedd yn gyfrifol am gyllideb flynyddol gwerth mwy na £6 miliwn ac roedd yn rheoli ystod o raglenni datblygiad gwledig ac adfywio. Roedd ei rôl hefyd yn cynnwys paratoi briffiau ar gyfer swyddogion lefel uchel o fewn Awdurdod Datblygu Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae hefyd wedi gweithio fel Dadansoddwr Polisi o fewn yr Uned Polisi Gwledig yn cyfrannu at ddatblygu polisïau datblygu gwledig Awdurdod Datblygu Cymru.

Yn union cyn ymuno â Wavehill, roedd Endaf yn Bennaeth Ymgynghori ar gyfer Mabis, adain fasnachol Menter a Busnes, cwmni datblygu economaidd a menter gymdeithasol blaenllaw yng Nghymru. Roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Gweithredol y busnes a oedd yn cyflogi dros 30 o staff ac roedd ganddo drosiant blynyddol o fwy na £3 miliwn. Mae hefyd wedi gweithio fel rhan o dîm polisi Undeb Amaethwyr Cymru.

Pan nad yw Endaf yn gweithio fel arfer mae ei ffrindiau yn tynnu ei goes am ei fod yn cefnogi Manceinion Unedig neu ei wraig yn ei boeni oherwydd ei (ddiffyg) DIY o amgylch y ty.

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau