Hannah Thomas
Fel Rheolwr Swyddfa Wavehill mae Hannah yn rhedeg ein swyddfa yng Nghymru ochr yn ochr â Tracy ac yn ymdopi'n fedrus gyda dwsinau o gleientiaid, rheoli staff ymchwil a chyfweld Wavehill, a hefyd yn cyflwyno cefnogaeth weinyddol a thechnegol i sicrhau bod ymchwil a gwerthusiadau'r cwmni yn cael eu cynnal i'r safonau uchaf posibl. Fel tîm rheoli, mae Hannah a Tracy yn dangos gallu i ddeall anghenion a disgwyliadau cleientiaid Wavehill wrth gyfarwyddo pob cam o'r broses werthuso yn effeithiol ac yn gywir. Mae rôl Hannah wedi datblygu wrth i Wavehill weithredu technegau a methodoleg newydd ac mae wedi ysgwyddo cyfrifoldeb dros oruchwylio'r hyfforddiant, cynnal a dadansoddi offer a meddalwedd gwerthuso CATI a CAWI. Mae gan Hannah gefndir helaeth mewn gwasanaethau i gwsmeriaid, gweinyddu a rheoli a bellach mae'n chwarae rôl cwbl hanfodol wrth gydlynu holl waith Wavehill.
Ar benwythnosau a gwyliau, mae Hannah yn treulio rhan fwyaf ei hamser yn rheolwr prosiect wrth adeiladu ei chartref cyntaf, sydd bellach yn agosáu at ei gwblhau ac i lawr i'r cyfnod 'cyffyrddiadau olaf'. Pan fydd ganddi amser sbâr mae'n mwynhau cymdeithasu gyda theulu a ffrindiau yng Ngorllewin Cymru.