Llyr Roberts
Mae Llŷr yn ymgynghorydd profiadol ac mae wedi cyflwyno prosiectau ymchwil a gwerthuso i gleientiaid o fewn y sector cyhoeddus, sector preifat a'r trydydd sector. Mae wedi bod yn gysylltiedig â gwerthusiadau, adolygiadau, asesiadau economaidd a gwaith datblygu strategaeth ac yn ddiweddar mae wedi cyflwyno prosiectau o fewn meysydd mor amrywiol ag ariannu Ewropeaidd, datblygiad gwledig, y farchnad lafur, pobl ifanc a menter.
Cyn ymuno â Wavehill, gweithiodd Llŷr fel Ymgynghorydd i Mabis, sy’n rhan o Grŵp Menter a Busnes (Awdurdod Menter Cymru gyfan). Yn ystod ei gyfnod gyda Menter a Busnes fe wnaeth hefyd gyflwyno prosiectau menter a oedd yn annog pobl i sefydlu busnesau ac annog twf busnesau ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Graddiodd Llŷr mewn daearyddiaeth ac mae ganddo radd Meistr mewn Rheolaeth. Mae hefyd yn aelod o’r Sefydliad Datblygiad Economaidd a Chymdeithas Ymchwil y Farchnad. Cymraeg yw iaith gyntaf Llŷr a bellach mae’n byw yng Nghaerdydd.