Louise Petrie
Ymunodd Louise â
Wavehill yn 2007 ac mae’n un o Uwch Ymchwilwyr Wavehill. Mae Louise wedi
gweithio ar nifer o brosiectau proffil uchel gan gynnwys Arolwg Ffermwyr ar
gyfer Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn siarad â ffermwyr sydd naill ai wedi bod yn
llwyddiannus neu’n aflwyddiannus wrth sicrhau cymorth grant i weld pa mor
effeithiol y maen nhw’n rheoli eu coetir a Gwerthusiad o Raglen Datblygu
Gweledig Abertawe, prosiect wedi’i anelu at gynorthwyo cymunedau, gan eu
cynorthwyo i roi hwb i’w heconomi lleol trwy gefnogi busnesau lleol, gwella
gwasanaethau sylfaenol, cynlluniau gwella pentrefi, gwella sgiliau trwy
hyfforddiant, a gwella trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol.
Rôl allweddol Louise fel Uwch Ymchwilydd yw
goruchwylio’r broses o ddatblygu holiaduron a chyfnod peilot unrhyw gytundeb
newydd gan sicrhau bod y broses ymchwil a gwerthuso arfaethedig yn bodloni
amcanion ein cleientiaid.
Mae ei phrofiad hefyd
yn cynnwys gweithio ar arolwg a gomisiynwyd gan Gyngor Chwaraeon Cymru yn
cysylltu â dros 1200 o ysgolion i gyfranogi mewn arolwg ar-lein i bennu'r
gweithgareddau chwaraeon y maen nhw’n cymryd rhan ynddynt y tu allan i’r
Ysgol. Un o gryfderau penodol Louise yw
cysylltu â phobl anodd eu cyrraedd gan gynnwys y rheini gydag anawsterau dysgu
a phroblemau iechyd meddwl ac mae wedi ymweld â nifer fawr o brosiectau allan
yn y maes sy’n cynnwys gweithgareddau wedi’u lleoli yn y coetir yn gweithio
gyda phobl ifanc wedi dadrithio ar gyfer WICKED i gynnal ymweliadau astudiaeth
achos ar gyfer y Gronfa Loteri Fawr a Phawb a’i Le.
Cyn ymuno â Wavehill, gweithiodd Louise
yng Nghanada am nifer o flynyddoedd ac yna dychwelodd i’r DU i sefydlu ei
busnes ei hun ble cafodd gyfle i feithrin ei sgiliau trefnu a phrofiad
ariannol.