Wavehill Consulting

Ymchwil a Gwerthuso yn Seiliedig ar Dystiolaeth

Wavehill Consulting

Site navigation

Mark Willis

Cydsefydlodd Mark Wavehill Consulting 15 mlynedd yn ôl yn Llundain ac mae'n arbenigo fel cydlynydd prosiect ar gyfer ystod eang o brosiectau a ariannir gan Ewrop; 8 mlynedd yn ôl adleoliwyd swyddfa Wavehill i Orllewin Cymru.

Yn ystod oes y cwmni, mae Mark wedi sicrhau cyfoeth o brofiad yn gweithio gyda phrosiectau adfywio cymunedol ar draws Cymru a Lloegr, gan arwain a chydlynu gwerthusiadau, astudiaethau ymchwil, ymgynghoriadau cymunedol ac arolygon ar raddfa fawr.

Ers sefydlu Wavehill yng Nghymru mae Mark wedi dod yn arbenigwr cydnabyddedig mewn gwerthusiad cymunedol ac mae ganddo wybodaeth a dealltwriaeth drwyadl o'r cyd-destun lleol, rhanbarthol a chenedlaethol y mae rhaglenni a mentrau wedi'u gosod o'u mewn. Mae hefyd wedi arwain a chydlynu gwerthuso ystod eang o brosiectau hir dymor gan gynnwys:

  • Pobl Ifanc – Y Gronfa Loteri Fawr

  • Pawb a'i Le – Y Gronfa Loteri Fawr

  • Dros 40 o werthusiadau cymunedol SRB ac adnewyddu cymdogaeth

  • Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf

  • Gwerthusiad Cynghorau Gwirfoddol Sirol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r Gronfa Risg Gymdeithasol

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau