Tracy Newman
Mae Tracy wedi gweithio gyda Wavehill am dros flwyddyn ac mae'n rhannu'r cyfrifoldeb am y dasg anferth o gydlynu'r holl brosiectau, gan gynnwys trefnu'r holl gyfarfodydd wyneb yn wyneb a grwpiau ffocws ac arwain y Tîm Cyfweld.
Cyn ymuno â Wavehill bu Tracy yn gweithio am wyth mlynedd i gwmni cyfryngau/cyfathrebu mawr mewn amryw rolau megis Rheolwr Prosiect, Gofal Cwsmeriaid a chefnogaeth Swyddfa Gefn. Ers ymuno â Wavehill mae wedi ymgymryd ag amryw gyfrifoldebau ar gyfer ystod o brosiectau;
Ymweld â Chanolfannau Hamdden ar draws Cymru er mwyn ymgymryd ag ymarfer siopwr cudd a hwyluso cyfweliadau wyneb yn wyneb gyda defnyddwyr Canolfannau i gasglu eu hadborth a'u barnau a chanfyddiadau o ddewisiadau bwyta'n iach o fewn Canolfannau Hamdden fel rhan o fenter Llywodraeth Cynulliad Cymru, trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb gydag aelodau Grwpiau Gwirfoddol a Chymunedol, ac ymgymryd â chyfweliadau ffôn gyda grwpiau buddiolwyr ar gyfer prosiect Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, cynnal cyfweliadau ffôn manwl gyda grwpiau buddiolwyr a chyfranogwyr unigol ar gyfer gwerthusiad CFTF a threfnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda Meddygfeydd Meddygon Teulu a oedd yn cyfranogi mewn Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Gogledd Fulham.
Yn weinyddol, Tracy sy'n gyfrifol am weithredu gwerthusiadau ac ymchwil; mae hyn yn cynnwys sicrhau dogfennau prosiect, trefnu cyfarfodydd gyda rheolwyr prosiect a sefydliadau cymunedol, sicrhau a gwirio cyfesurynnau buddiolwyr; trefnu sesiynau grwp ffocws a rheoli cronfa ddata prosiect.