Vic de Jean
Yn gydymaith Wavehill er 1997, mae Victor yn arbenigo mewn datblygiad a hyfforddiant addysgol, ac adfywiad cymdeithasol. Mae dod o'r gymuned Afro Caribiaidd wedi cynorthwyo Victor wrth weithio gyda grwpiau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, ac mae ei gefndir mewn addysg wedi bod yn amhrisiadwy wrth alluogi iddo gael mynediad at bobl ifanc anodd eu cyrraedd, ynghyd â gallu cynghori rheolwyr ar gyfleoedd strategaeth ymlaen ar gyfer rhaglenni hyfforddiant a galwedigaethol.
Mae Victor hefyd wedi bod yn gysylltiedig â gwerthuso SRB a rhaglenni a ariannir gan Ewrop ym Mryste, Bedford, Llundain, Market Rasen, Pendle, Portsmouth a Chymru, sydd wedi rhoi dealltwriaeth eang iddo o'r materion yn ymwneud ag adfywio, a'r cyfle i weld enghreifftiau o arfer gorau dros ei hun. Mae'r cytundebau hyn wedi ymdrin ag Adfywiad Cymunedol, Cefnogaeth i Fusnesau Bach, Cynlluniau Hunan-Adeiladu, Diogelwch Cymunedol, ynghyd â phrosiectau yn ymwneud â Connexions, Porth Dysgu, Porth Ieuenctid (Cymdeithas Gyrfa Cymru), TGCh, Dysgu Gydol Oes, Sgiliau Allweddol a'r Digital Learning Ring.
O ran addysg, mae Victor yn arbenigo mewn e-ddysgu, ac roedd yn gysylltiedig fel awdur ar gyfer ‘Further Education On-line’, ‘GCSE Bitesize’ y BBC a chyfres CD ROM ‘Key Skills’ y BBC. Roedd hefyd yn Gynghorydd Ysgol ar gyfer Datblygu Staff TGCh ar gyfer y Rhaglen Ysgolion Dysgu (Prifysgol Agored), ac mae wedi gweithio'n agos gyda'r LSDA (Asiantaeth Datblygu Dysgu a Sgiliau). Mae hefyd wedi bod yn gysylltiedig ag ysgrifennu deunyddiau eCPD, i gefnogi staff ym maes e-ddysgu, ar ran y Rhwydwaith Dysgu a Sgiliau a QIA (Quality Improvement Agency), ac mae wedi golygu ‘On-line Toolkit for Work Based Learning Providers' y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Arweinyddiaeth.
Ar hyn o bryd mae Victor yn gydymaith gyda Wavehill Consulting, y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Arweinyddiaeth, y Rhwydwaith Dysgu a Sgiliau a NIACA (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion), ac mae'n aelod o'r corff proffesiynol AMED (Association of Management Education and Development). Cyn hyn, fe dreuliodd ddeng mlynedd yn dysgu mewn Ysgolion Uwchradd yn Llundain Fewnol ac Unedau Oddi ar y Safle ar gyfer plant gyda phroblemau ymddygiadol; a naw mlynedd fel Darlithydd ac Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Bellach ac Uwch.