Wavehill Consulting

Ymchwil a Gwerthuso yn Seiliedig ar Dystiolaeth

Wavehill Consulting

Site navigation

Y Tîm

Cyfarwyddwyr

Ymgyngohorwyr

Tîm Cynorthwyo

Tîm Ymchwil

Mae ein tîm cymdeithasol ymroddedig a phrofiadol yn cynnwys cyfwelwyr sy'n hynod sythweledol ac yn defnyddio ymdriniaeth broffesiynol ond bersonol tuag at yr holl arolygon maent yn ymgymryd â hwy, gan gynnwys arolygon preswylwyr, cyfweliadau ffôn, cyfweliadau maes wyneb yn wyneb, arolygon trwy'r post ac arolygon electronig (e-bost).

“Roedd yr ymateb gan y rhai a holwyd ynghylch ansawdd y cyfweliadau ffôn yn hynod bositif, gyda llawer o bobl yn dweud eu bod wedi mwynhau'r profiad er mawr syndod iddynt!”

Nid yn unig mae'r tîm yn fedrus wrth gasglu gwybodaeth ansoddol sy'n gadarn yn ystadegol ond, trwy eu profiad, maent yn arbenigwyr wrth dynnu'r dystiolaeth ansoddol sy'n creu sylfaen dystiolaeth gryfach ar gyfer ein cleientiaid.

Mae cyflawni'r ansawdd uchaf posibl o'n gwaith ymchwil o bwysigrwydd pennaf i Wavehill a'r tîm cyfweld. Er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchel hyn mae'r holl gyfwelwyr yn cael eu briffio yn drylwyr gan yr ymgynghorydd arweiniol ar ddechrau pob prosiect, byddwn yn rhag brofi'r holl holiaduron ac mae'r broses gyfweld wedi'i chynllunio a'i monitro'n ddyddiol i sicrhau ei bod yn cael ei chyflwyno o fewn y cyfyngiadau amser, ac yn olaf byddwn yn ymgymryd â gwiriadau data yn ystod y broses gyfweld ac ar y diwedd.

Nid yn unig y mae aelodau'r tîm yn hyfedr mewn technegau cyfweld un wrth un ond hefyd maent wedi'u hyfforddi'n rheolaidd yn nefnydd systemau cyfweld cyfrifiadurol Wavehill megis CAPI (Cyfweld Personol gyda Chymorth Cyfrifiadur), CATI a CASIC (ffôn) a CAWI (ar-lein). Yn ôl y disgwyl, cedwir at ganllawiau a pholisïau yn ymwneud â gweithdrefnau ymchwil y farchnad yn llym ac mae'r holl gyfwelwyr wedi'u cofrestru gyda'r MRS. Mae holl aelodau tîm hwyluso cyfweld Wavehill hefyd wedi'u cofrestru gyda'r Gymdeithas Ymchwil y Farchnad ac maent wedi cwblhau cwrs sgiliau Hwyluso Mentrau Cymdogaeth yn llwyddiannus. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sector datblygu cymunedol/adfywio neu aelodau grwpiau cymunedol/partneriaeth sy'n ymgymryd â gwaith hwyluso gyda grwpiau.

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau