Wavehill Consulting

Offer a Hyfforddiant
"Galluogi a Grymuso"

Wavehill Consulting

Site navigation

Astudiaeth Achos Offer a Hyfforddiant 2

Y Rhyl yn Symud Ymlaen – Sefydlu Dangosyddion Gwaelodlin a Datblygu Fframwaith Mesur Perfformiad

Comisiynwyd Wavehill gan Awdurdod Datblygu Cymru a Chyngor Sir Ddinbych i gefnogi datblygu fframwaith mesur perfformiad ar gyfer gwaith y Rhyl yn Symud Ymlaen. Fel rhan o'r prosiect hwn, ymgymerodd Wavehill ag arolwg yn cynnwys 200 o fusnesau'r Rhyl, 50 o grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn y Rhyl, a dros 30 o sefydliadau rhanddeiliaid yn gweithio yn yr ardal, a dros 400 o breswylwyr lleol. Yna fe wnaeth Wavehill ddadansoddi'r holl ddata, cysylltu'r canfyddiadau â dangosyddion gwaelodlin posibl, ac yna adrodd ar ei ganfyddiadau.

Yn ystod y prosiect, darparodd Wavehill yr isod i grwp y Rhyl yn Symud Ymlaen:

  • Cyngor a chefnogaeth ar sefydlu a chytuno ar ddangosyddion gwaelodlin craidd;

  • Gwybodaeth gyfredol ar gyfer y dangosyddion gwaelodlin dewisol;

  • Ystod o holiaduron arolwg i gasglu gwybodaeth ansoddol a meintiol ar agweddau a chanfyddiadau o'r ardal;

  • Cyflwyno ymron i 700 o gyfweliadau gydag ystod o bobl leol, busnesau a rhanddeiliaid;

  • Datblygu fframwaith arloesol ar gyfer Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, a phartneriaid allweddol, i fesur effaith ymyraethau'r prosiect yn y dyfodol;

  • Cyflwyno adroddiad llawn er mwyn clymu ynghyd yr holl ganfyddiadau a'r argymhellion.

Cleient: Awdurdod Datblygu Cymru

Copyright © 2012 Wavehill - Telerau ac amodau