Offer a Hyfforddiant – “Galluogi a Grymuso”
Eich Angen – Buddion Parhaus
Rydym yn cynnig – Yr offer a hyfforddiant ar gyfer datrysiadau cynaliadwy
Yn ein barn ni, dylai cleientiaid sicrhau budd parhaus o weithgareddau ymchwil a gwerthuso. Byddwn felly yn gadael y cleient gydag offer ac adnoddau a all ychwanegu gwerth arwyddocaol at weithgareddau yn y dyfodol.
Rydym yn brofiadol wrth ddwyn ynghyd data a barn i mewn i ddangosyddion perfformiad mesuradwy, adeiladu systemau o amgylch y dangosyddion hyn ac yna cyflwyno hyfforddiant, cefnogaeth a datblygiad fel bod modd mesur camau gweithredu, a'u halinio'n strategol a'u gwerthfawrogi. Mae hyn yn caniatáu sylfaen economaidd empirig ar gyfer dadansoddi prosiect a rhaglen, gan gyflwyno cysyniadau megis Gwerth Ychwanegol Strategol, effeithiau Di-fuddiant, Dadleoliad a Lluosydd, ac wrth gwrs yn caniatáu ar gyfer dadansoddiad cost / budd.
Rydym wedi gweithio gydag ystod o gleientiaid, ar draws sectorau, er mwyn meithrin gallu o fewn sefydliadau. Mae hyn wedi cynnwys:
Monitro cynaliadwy a fframweithiau hunanwerthuso. Mae ein pwyslais ar ddatblygu systemau sy'n bwrpasol, ond yn allweddol, nad ydynt yn gymhleth ac y gellir eu defnyddio gyda'r lleiaf o drafferth gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr;
Cyflwyno hyfforddiant o ansawdd uchel ar bynciau perthnasol megis datblygu strategaeth, gosod amcanion, monitro a gwerthuso ac ymgynghoriad cymunedol.
Mae ein hadroddiadau, offer mesur perfformiad a hyfforddiant yn ymarferol ac yn hawdd eu defnyddio ar wahanol lefelau, o aelodau a buddiolwyr cymunedol i randdeiliaid lefel strategol.
Mae'r pecyn cymorth a'r rhaglen hyfforddi y mae Wavehill wedi'u datblygu wedi'u cynllunio'n benodol i uwchraddio sgiliau aelodau'r gymuned ac i'w cysylltu yn y broses ymgynghoriad; gan ychwanegu at ansawdd yr ymchwil ac ychwanegu gwerth at yr ymgynghoriad. Mae'r holl gyfwelwyr cymunedol yn mynd trwy hyfforddiant manwl, sy'n galluogi iddynt ddatblygu holiaduron ac ymgymryd â chyfweliadau o fewn eu cymuned eu hunain o safle hyderus a gwybodus.
Mae'r ffordd hon o weithio yn galluogi i ni oresgyn rhwystrau traddodiadol tuag at gysylltu. Mae Wavehill wedi cael aelodau'r gymuned leol yn fwy parod i dderbyn ac yn fwy agored i gyfweliad pan ymgymerir ag ef gan aelod o'u cymuned - maent yn teimlo'n fwy cynhwysol yn y broses na phe bai'r cyfweliad yn cael ei gynnal gan rywun o'r tu allan ac yn aml mae'n rhoi 'llais' i grwpiau sydd wedi'u hallgau'n gymdeithasol na fyddai modd eu cyrraedd trwy ddulliau eraill.
Mae Wavehill yn ymgymryd ag ymgynghoriad cymunedol trwy ddefnyddio proses fentora, lle fo mentor gyda'r holl gyfwelwyr lleol (naill ai Cyfwelydd Cymunedol profiadol Wavehill neu'r Hyfforddwr). Mae hyn yn caniatáu i'r cyfwelydd lleol deimlo ei fod yn cael ei gefnogi trwy gydol yr ymgynghoriad ac mae'n golygu bod rhywun wrth law i helpu neu gynnig cyngor drwy'r amser.
Mae adborth ein cleientiaid yn tynnu sylw at werth cynhenid yn y ddarpariaeth o offer a hyfforddiant;
“Roedd y gwaith cychwynnol a wnaed gan Wavehill yn ymwneud yn bennaf ag adolygu ein trefniadau monitro a gwerthuso, cynllunio system i gasglu cynnydd yn erbyn ein hamcanion ac yna hyfforddi staff i ddefnyddio'r system. Gweithiodd hyn yn dda iawn - rydym yn falch iawn o'r system ddrafft ac edrychwn ymlaen at ei weithredu gyda chefnogaeth swyddog Monitro a Gwerthuso newydd. Derbyniwyd yr hyfforddiant yn dda iawn a gweithiodd Wavehill hefyd gyda'n timau thema i gynorthwyo gyda datblygu amcanion CAMPUS ac i gynghori ar ddangosyddion a chasglu data - eto cafwyd hyn yn ddefnyddiol iawn (a modd ei gymhwyso'n ymarferol)”
Prosiectau
Achub y Plant
Adroddiad gwerthuso a arweiniodd at fonitro systemau, cronfa ddata KPI a hyfforddiant.
Cleient: Rhaglen Achub y Plant Cymru
Cyngor Datblygu Gweithlu Plant
Dull, system a set gyflawn o ddata newydd ar gyfer cyfraddau cyflogaeth galwedigaethol ar draws Lloegr.
Cleient: Cyngor Datblygu Gweithlu Plant
Partners in Salford
System monitro ethnigrwydd, set ddata, cronfa ddata, ymchwil a hyfforddiant.
Cleient: Cyngor Dinas Salford
Ystâd y Gurnos Merthyr Tudful
Gwerthusiad a arweiniodd at ymgynghoriad cymunedol a 5 o bobl wedi'u hyfforddi i hwyluso ymgynghoriad.
Cleient: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Sefydlu Dangosyddion Gwaelodlin a datblygu Fframwaith Mesur Perfformiad – Cynllun Adfywio Aberteifi a De Ceredigion - Amcan 1
Cynllun Adfywio Aberteifi a De Ceredigion – Amcan 1
Comisiwn i 'gefnogi datblygu'r fframwaith perfformiad mewn perthynas â chasglu data gwaelodlin a gwaith arolwg lleol' ar sail Cynllun Adfywio Aberteifi a De Ceredigion.
Cleient: Awdurdod Datblygu Cymru