Swyddi Gwag
Ymgynghorwyr
Llawn Amser / Rhan Amser/ Llawrydd
Lleoliad - Hyblyg
Cyflog – i'w drafod gan ddibynnu ar brofiad
Mae Wavehill (www.wavehill.com) yn ymgymryd ag ymchwil a gwerthusiad o ansawdd uchel i Awdurdodau Lleol, asiantaethau’r Llywodraeth a sefydliadau eraill yng Nghymru ac ar draws y DU.
Ar hyn o bryd rydym yn ehangu ar ein tîm hyblyg ac ymroddedig o ymgynghorwyr ac angen unigolion sydd â gradd berthnasol a phrofiad yn y meysydd a ganlyn:
- Ymchwil Polisi a Strategol
- Gwerthuso Rhaglenni a Phrosiectau
- Arolygon Preswylwyr a Busnesau
Rhaid i chi fod yn hynod drefnus, gennych sgiliau data meintiol ac ansoddol, yn defnyddio amser yn effeithiol ac yn gallu cymell eich hun. Mae dealltwriaeth o bolisi cyfredol yn hanfodol, rhaid i’ch sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno fod yn wych, a rhaid cael gallu amlwg i weithio i bwysau terfynau amser cleientiaid. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol.
Ymchwilwyr Maes - Llawn Amser / Rhan Amser/ Llawrydd
Rydym hefyd yn edrych am bobl a all gymell eu hunain i ymuno â’n tîm sefydledig o ymchwilwyr maes.
Bydd gan yr unigolion llwyddiannus sgiliau trefnu a chyfathrebu gwych, yn gallu cyfathrebu'n dda ar y ffôn a chanddynt sgiliau TG cyffredinol gwych. Bydd yr ymgeiswyr delfrydol yn hyblyg, yn gallu gweithio fel rhan o dîm neu ar eu pennau eu hunain. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol.
Mae Wavehill yn gyflogwr hyblyg ac rydym yn annog cymysgedd o weithio o’r swyddfa ac o’r cartref er mwyn cydbwyso bywyd y cartref ac yn annog cydraddoldeb ac ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol.
Cyswllt cyntaf: anfonwch neges e-bost ynghyd â’ch CV at: recruitment@wavehill.com