top of page
  • Wavehill

Gwerthusiad Bro360: Hysbysiad Preifatrwydd

Dyma sut rydym yn cadw ac yn prosesu gwybodaeth amdanoch

Mae Wavehill wedi cael eu penodi gan gwmni Golwg i gynnal gwerthusiad o’r rhaglen Bro360. Mae dau nod ac allbwn allweddol ar gyfer y gwerthusiad hwn. Yn gyntaf, bydd adroddiad gwerthuso crynodol yn cael ei gynhyrchu ar ddiwedd y prosiect er mwyn asesu'r effeithiau a gynhyrchir. Bydd hyn hefyd yn llywio’r proses datblygu polisi trwy adnabod arferion da. Yn ail, bydd y gwerthusiad yn ceisio llywio a bwydo mewn i ddatblygiad y prosiect trwy roi adborth yn barhaus i’r tîm darparu. Bydd perfformiad y prosiect yn cael ei werthuso gam wrth gam gydag adroddiadau interim rheolaidd gan nodi'r gwersi a ddysgwyd ac argymhellion ar gyfer y ddarpariaeth i’w ddod.

Er mwyn gwneud hynny, hoffwn dderbyn adborth wrth unigolion sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect (e.e. trwy fynychu cyfarfod neu gyfrannu stori) ac rhanddeiliaid eraill sydd yn ymwneud a’r prosiect.

Bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y gwerthusiad hwn yn unig. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o’r gwerthusiad yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Ni fydd y data yr ydych yn darparu yn cael eu gwneud yn gyhoeddus mewn ffordd a allai arwain atoch yn cael eich adnabod. Bydd Wavehill yn llunio adroddiad sy’n seiliedig ar y data ond ni fydd modd adnabod unrhyw unigolion ar sail yr adroddiad.

Bydd Wavehill yn dileu’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu, a’r holl ddata personol sy’n ymwneud â’r ymchwil hon, yn dilyn diwedd y gwerthusiad. Disgwylir i’r gwerthusiad gorffen yn Ebrill 2022 ac felly bydd yr holl ddata yn cael ei dileu mis Hydref 2022.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r gwerthusiad, teimlwch yn rhydd i gysylltu â naill ai Ioan Teifi, sef y prif gyswllt o Wavehill (ioan.teifi@wavehill.com | 01179 902 811), neu Lowri Jones o gwmni Golwg (lowrijones@golwg.com | 01570 423 529).

Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru DataProtectionOfficer@gov.wales.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Wavehill

  • i’w gwneud yn ofynnol i Wavehill gywiro unrhyw gamgymeriadau sydd yn y data hwnnw

  • i wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) neu gyfyngu ar brosesu

  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau).

Cysylltwch ag Ioan Teifi os gwelwch yn dda os ydych yn dymuno gwneud unrhyw un o’r pethau hyn mewn perthynas â’r prosiect hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n rheoleiddiwr annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy’r wefan www.ico.gov.uk , neu ysgrifennwch at: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

Gwybodaeth bellach

1. Pam mae’r gwaith ymchwil hwn yn digwydd?

Mae Wavehill wedi cael eu comisiynu gan Golwg i gynnal gwerthusiad o’r rhaglen Bro360.

Mae Bro360 wedi’i sefydlu gan gwmni Golwg gyda’r nod o weithio gyda chlystyrau o gymunedau, a’r papurau bro o fewn y cymunedau hynny, er mwyn sefydlu rhwydwaith o wefannau cymunedol Cymraeg yn y pen draw. Mae’r cynllun yn dechrau mewn dwy ardal beilot, yng ngogledd Ceredigion ac yn Arfon, gyda’r bwriad o gyflwyno’r prosiect i ardaloedd newydd yn unol ag arfer a fydd yn cael ei ddatblygu yn yr ardaloedd peilot hyn. Yr amcan yw creu model neu fodelau a fydd yn addas i’w defnyddio gan greu rhwydwaith o wasanaethau lleol ar draws Cymru.

Yn unol â hynny, mae'r prosiect yn ceisio ymgysylltu â phapurau bro ac amryw o grwpiau cymunedol fel rhan o ddull ‘ground-up’ caiff ei arwain gan y cymunedau gyda Golwg yn gweithredu fel yr hwylusydd. Mae cyllid y cynllun hwn, o gronfa datblygu ranbarthol Ewrop, yn rhoi cyfle i Golwg wireddu’r prosiect.

Nod y prosiect i ddechrau yw sefydlu dichonoldeb creu model cynaliadwy a thrwy hynny, os yn llwyddiannus, cryfhau'r Gymraeg a gweithgarwch lleol yn y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu yn ogystal â darparu cyfleoedd marchnata i fusnesau lleol.

Comisiynwyd Wavehill i werthuso’r prosiect er mwyn asesu ei heffaith a deall os ydyw wedi cyflawni ei nod ac amcanion. Yn ogystal, bydd Wavehill yn cynnal nifer o gamau gwerthuso interim i fyny at Ebrill 2022 er mwyn asesu effeithiolrwydd agweddau gwahanol o’r prosiect a gwneud argymhellion am ffyrdd i wella’r prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen.

2. Pa fath o wybodaeth a gesglir drwy gyfrwng yr arolwg?

Gofynnir i bobl sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect (gan gynnwys busnesau) a rhanddeiliaid perthnasol arall i gymryd rhan mewn cyfweliadau ffon a/neu cwblhau arolwg ar adegau gwahanol yn ystod y prosiect. Bydd yr arolygon a’r cyfweliadau ffon yn gofyn amdan ychydig o wybodaeth gefndirol amdanoch chi gan gynnwys eich gweithgarwch yn y cymuned; effeithiolrwydd y prosiect megis yr ochr ysgogi, datblygu meedalwedd, hyfforddiant ayb; ac effaith y prosiect arnoch chi ac yn ehangach.

3. Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person, naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. enw person, ei gyfeiriad, neu fanylion sy’n benodol am y person hwnnw.

4. Am ba hyd y cedwir data personol?

Bydd Wavehill yn dileu’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu, a’r holl ddata personol sy’n ymwneud â’r ymchwil hon, yn dilyn diwedd y gwerthusiad. Disgwylir i’r gwerthusiad gorffen yn Ebrill 2022 ac felly bydd yr holl ddata yn cael ei dileu mis Hydref 2022.

5. Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu data a gasglwyd yn yr arolwg?

Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data hwn ar y sail eich bod wedi rhoi eich caniatâd i rannu'r data hwn gyda ni.

6. Beth yw pwrpas prosesu eich atebion i’r arolwg?

Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Bydd y data yn cael ei ddadansoddi er mwyn galluogi Golwg i ddod i ddeall profiad rhanddeiliaid a chyfranogwyr ac effaith y prosiect. Ni fydd y data yn cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu ddibenion marchnata, ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i gymryd penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.

7. Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy’r arolwg?

Bydd gan Wavehill gopi o’r data personol. Bydd yr Arolwg yn dal rhywfaint o ddata personol gan gynnwys eich enw, lleoliad, eich cyfeiriad e-bost ayb.

Bydd y data hwn yn cael ei ddadansoddi gan ymchwilwyr Wavehill i gynhyrchu adroddiad ar gyfer Golwg. Ni fydd yr adroddiad hwn yn adnabod unrhyw unigolion sy'n cymryd rhan yn yr ymchwil ac ni chaiff y data ei rannu â Golwg nac unrhyw un arall. Bydd Wavehill yn dileu pob data personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect. Ni fydd gan Golwg fynediad at ddata personol a gesglir trwy unrhyw un o'r gweithgarwch ymchwil a wneir yn y gwerthusiad hwn.

bottom of page