
Ymchwil Polisi a Datblygu Strategaeth
Mae dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddatblygu polisi yn eich galluogi i adeiladu mentrau mwy cadarn, hirdymor sy'n ymateb yn uniongyrchol i angen. Bydd seilio eich dull gweithredu ar dystiolaeth sydd wedi’i halinio’n gyd-destunol ac sy’n adlewyrchu ar arfer da blaenorol yn cefnogi datblygiad strategaeth effeithiol, a gweithredu polisi a chanlyniadau. Mae dogfennau strategaeth yn hanfodol i ddod â’ch rhanddeiliaid ynghyd y tu ôl i fater ac yn eich galluogi i fynegi’n glir eich gweledigaeth yn erbyn ymyriadau arfaethedig. Gallwn roi cymorth i chi wella eich dealltwriaeth o faterion y mae eich polisi neu fenter yn eu hwynebu a datgelu mewnwelediadau unigryw i lywio ac arwain datblygiad strategaeth yn well.

Yn Wavehill rydym yn:
-
Coladu a dadansoddi tystiolaeth i lywio datblygiad a gweithrediad polisi, werthuso cynlluniau peilot sy'n profi ein mentrau polisi, i gyfeirio datblygiad polisi yn seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys dadansoddiad ymgynghori manwl.
-
Datblygu strategaethau cryno a deniadol, trwy gydweithio â chi i nodi'r opsiynau mwyaf priodol yn eich cyd-destun eich hun, wedi'u hategu gan ddadansoddiad economaidd-gymdeithasol a'u cyfathrebu'n glir mewn dogfennau sy'n wynebu'r cyhoedd.
Rydym yn gweithio gyda chi i ddarparu tystiolaeth glir sy'n adrodd y stori y tu ôl i'r data. Mae ein gwaith ar draws meysydd polisi lluosog ac ar bob lefel o lywodraeth yn eich helpu i ddatblygu mentrau polisi cadarn ac yn cynnig y mewnwelediad sydd ei angen i chi osod eich strategaethau yn gywir. Bydd ein dull yn eich helpu i wneud dewisiadau gwell, mwy gwybodus yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.