top of page

Arfor 2 Llwyddo’n Lleol Hysbysiad Preifatrwydd

  • Writer: Wavehill
    Wavehill
  • 6 days ago
  • 5 min read

Cefndir

Comisiynwyd Wavehill i gynnal gwerthusiad o raglen ARFOR 2 rhwng diwedd 2023 a chychwyn 2025. Rhaglen yw ARFOR a gyflwynir ar y cyd gan Gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy'n ceisio defnyddio ymyriadau datblygu economaidd i gefnogi cadarnleoedd Cymru ac, o ganlyniad, cynnal yr iaith. Yn dilyn cloi'r rhaglen mis Mawrth 2025, mae Wavehill wedi cael ei chomisiynu unwaith eto i asesu opsiynau ar gyfer camau nesaf o fewn y maes economi a’r Gymraeg.


Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth

Un o brif amcanion ARFOR yw i ddarbwyllo pobl ifanc bod yna chyfeloedd economaidd da yn bodoli yn yr ardal, a thrwy hynny sichraubod mwy o siaradwyr Cymraeg yn dewid aros neu ymgarefu yn y rhanbarth. Mae ARFOR wedi ariannu ymgyrch cyfathrebu Llwyddo’n Lleol, ynghyd a gweithgareddau cyfathrebu eraill, er mwyn cyfrannu tuag at y nod yna. Mae gan Wavehill diddordeb mewn ddeall mwy am effeithiolrwydd ymgyrchoedd cyfathrebu ARFOR fel rhan o’r gwaith ymchwil. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i lywio canfyddiadau ein gwaith ymchwi fydd yn ceisio adnabod blaenoriaethau o fewn y maes economi a’r Gymraeg ar gyfer y dyfodol.


Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan cyn neu yn ystod cwblhau yr arolwg. Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r arolwg yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod. Mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Gellir cyhoeddi adroddiadau a gynhyrchir fel rhan o'r broses hon ac ymddangos ar wefan ARFOR neu wefan neu lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill (megis Arsyllfa a BWR ARFOR). Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion heb eu caniatâd penodol.


Caiff eich data personol ei ddileu o fewn chwe mis yn dilyn diwedd ein cotract (sef erbyn Medi 2026). Mae'r data dienw yn cael ei gadw'n ddiogel a dim ond at ddibenion ymchwil anfasnachol y caiff ei ddefnyddio. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata.


Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Ioan Teifi, Rheolwr Prosiect Ymchwil ARFOR yma: ioan.teifi@wavehill.com.


O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Wavehill.

  • Ei gwneud yn ofynnol i Wavehill gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • I (mewn rhai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch data.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei ddileu.


Cysylltwch ag Ioan Teifi os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn.


Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 0303 123 1113 neu 0330 414 6421 ac drwy'r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennwch at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.


Mwy o wybodaeth


Amcanion y gwaith ymchwil

Prif bwrpas y cyfnod ‘Oedi a Myfyrio’ yw ystyried yr hyn sydd wedi cael ei chyflwyno hyd yma trwy ddwy wedd gyntaf rhaglen ARFOR er mwyn adnabod beth ddylai cael ei flaenoriaethu wrth symud ymlaen. Mae’r cyfnod hwn yn gyfle i ystyried pa weithgarwch neu ymyriadau hir dymor sydd ei hangen er mwyn ymateb i her graidd ARFOR (sef her mudo pobl ifanc a pherthynas niweidiol gwendidau economaidd ar y Gymraeg), pa rôl sydd gan rhanddeiliaid gweithredol yn y gofod hwn, a sut ellir ategu hynny trwy raglen neu gorff newydd.


Pwrpas y gwaith ymchwil hwn yw i gynhyrchu dysgu gall helpu llywio unrhyw weithgarwch yn y dyfodol trwy fapio rhanddeiliaid, ystyried ymhellach canfyddiadau'r gwerthusiad a llenwi bylchau yn y sylfaen tystiolaeth (e.e. llwyddiant yr ymgyrchoedd marchnata), ac adnabod blaenoriaethau a gweithgareddau posib i helpu creu Cynllun Gweithredu.


Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu drwy'r arolwg?

Mae'r arolwg yn ystyried y canlynol:

  • Ychydig o wybvodaeth cefndirol amdanoch chi (y sir yr ydych yn byww ynddi, eich oedran a’ch rhyw, gallu Cymraeg, a statws gweithio)

  • Eich canfyddiadau am yur ardaloedd dan sylw (h.y. Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn)

  • Eich ymwybyddiaeth o wahanol fentrau a’ch dealltwriaeth o ARFOR a Llwyddo’n Lleol yn benodol


Pwrpas yr arolwg hyn yw i ddarganfod mwy am farn pobl ifanc am yr ardal ac effeithiolrwydd yr ymdrechion presennol i gadw siaradwyr Cymraeg ifanc yn byw yn yr ardal neu eu denu'n ôl.


Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.


Mae'r arolwg yn casglu cyfeiriadau e-bost ar gyfer yr ymatebwyr sydd yn dewis cael eu cynnwys yn y raffl am gyfle i ennill un o bedwar taleb Amazon gwerth £25.


Am ba hyd y bydd y data personol yn cael ei gadw?

Caiff eich data personol ei ddileu o fewn chwe mis i ddiwedd ein cotract (sef erbyn Medi 2026).



Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gasglwyd?

Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu eich data yn seiliedig ar eich caniatâd.

   

Beth yw pwrpas prosesu eich atebion?

Defnyddir y data i lywio ein gwaith ymchwil.


Fel unigolyn sydd yn neu wedi byw yn yr ardal, hoffem ddeall mwy am eich canfyddiadau o’r ardal, eich ymwybyddiaeth o ymgyrchoedd ARFOR, ac unrhyw effaith arnoch. Mae eich adborth yn amhrisiadwy o ran ein galluogi i ddeall effaith a phwysigrwydd rhaglen ARFOR.

 

Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r arolwg?

Dim ond nifer fach o ymchwilwyr yn Wavehill fydd â mynediad at y data dienw ac mae gan Wavehill weithdrefnau a systemau i gadw'r data hwnnw'n ddiogel. Gellir defnyddio modelau dysgu iaith a meddalwedd trydydd parti i ddadansoddi'r data hwnnw ond mae'r rhain i gyd yn cydymffurfio â safonau GDPR y DU. Bydd yr holl ddata personol a gesglir drwy'r arolwg yn cael ei ddileu o fewn 6 mis i ddiwedd y contract.


Raffl i ennill un o bedwar Taleb Amazon gwerth £25.

Cymwysedd

  • Mae'r raffl wobrau ar agor i unigolion sydd wedi cwblhau yr arolwg.

  • Rhaid i gyfranogwyr fod yn 18-34 oed

  • Rhaid i gyfranogwyr fod wedi byw yn yr ardal

  • Rhaid i gyfranogwyr gwasgu y botwm cyflwyno


Sut i Ymuno

  • I gymryd rhan yn y raffl gwobrau, rhaid i chi gwblhau Arolwg Pobl Ifanc ARFOR yn llawn (atebwch bob cwestiwn a gwasgwch y botwm cyflwyno).

  • Ar ddiwedd yr arolwg, rhaid i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost pan ofynnir amdano.

  • Dim ond un ymgais a ganiateir fesul person. Ni fydd sawl ymgais yn cael eu cyfrif.


Gwobrau

  • Bydd pedwar (4) enillydd yn derbyn taleb Amazon gwerth £25 yr un.

  • Ni ellir trosglwyddo gwobrau ac ni chynigir unrhyw ddewisiadau arian parod.

  • Mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i roi gwobr o werth cyfartal neu fwy yn lle'r wobr os na fydd y wobr wreiddiol ar gael mwyach.


Dewis a Hysbysu Enillwyr

  • Dewisir enillwyr ar hap o blith yr holl geisiadau cymwys ar ôl i'r arolwg gau canol mis Mawrth 2026.

  • Cysylltir ag enillwyr drwy'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd wrth gyflwyno'r arolwg erbyn canol Mawrth 2026.

  • Os nad yw enillydd yn ymateb o fewn 14 diwrnod i'r hysbysiad, dewisir enillydd arall.


Diogelu Data a Phreifatrwydd

Bydd data personol (h.y. eich cyfeiriad e-bost) yn cael ei ddefnyddio i gysylltu â chi os cewch eich dewis fel enillydd. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall, ni fydd yn cael ei rannu â thrydydd partïon, a bydd yn cael ei ddileu ar ôl i'r ymchwil gael ei gwblhau, yn unol â pholisi cadw data Wavehill.


Cyffredinol

  • Mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu'r raffl gwobrau yn ôl ar unrhyw adeg heb rybudd.

  • Drwy gymryd rhan yn y raffl gwobrau, mae cyfranogwyr yn cytuno i fod yn rhwym i'r Telerau ac Amodau hyn.


Hyrwyddwr: Wavehill Ltd, 21 Alban Square, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0DB

 

Int. Ref. 748-23

 

 

 

 
 
bottom of page