top of page
Writer's pictureWavehill

Astudiaeth Perspectif Amaeth – Cyfweliadau cwmpasu â rhanddeiliaid yn y sector

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i ymgymryd â phrosiect ymchwil i ymgysylltu â'r gymuned ffermio i ddeall eu barn ar rai materion allweddol a sut maent yn ymateb i newidiadau yn y sector amaethyddol. Nod yr ymchwil hwn yw ymgysylltu â'r gymuned amaethyddol i gasglu barn ar amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig â'u gwaith. Bydd allbynnau'r gwaith yn cyfrannu at gryfhau ymgysylltiad parhaus â chymunedau ffermio a chefnogi yr ymrwymiad i wrando a gweithio mewn partneriaeth â'r diwydiant. Fel rhan o'r ymchwil hon, mae Wavehill yn dymuno siarad â rhanddeiliaid yn y sector. 

 

Nod y cyfweliad yw casglu tystiolaeth a barn gan sefydliadau sy'n gysylltiedig â'r sector amaethyddol ar faterion sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd a fyddai'n ddefnyddiol i'w deall trwy arolwg mwy systematig, y dull priodol o astudio yn y sector hwn a diddordeb mewn bod yn rhan o ddylunio holiadur.  

 

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir trwy'r cyfweliadau, ac yn dienwi'r data, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru. 

 

Efallai y bydd cyfweliadau'n cael eu recordiod. Bydd y recordiad yn glir i chi cyn i'r drafodaeth ddechrau. Cewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r cyfweliad gael ei recordio. Ar gyfer grwpiau, bydd pob aelod o'r grŵp yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydynt yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Ni fydd y drafodaeth yn cael ei recordio os and yw pob aelod o'r grŵp yn hapus i hyn ddigwydd. Unwaith y bydd y cyfweliad un-i-un neu grŵp wedi'i gynnal, bydd y sgwrs wedi'i recordio yn cael ei thrawsgrifio a bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chodio a'i anonymeiddio. Yna bydd y recordiad gwreiddiol yn cael ei ddileu. Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn cael eu cyflwyno mewn modd anhysbys. Os and yw’r sgwrs wedi ei recordio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys yn y nodiadau ysgrifenedig a fydd yn cael eu paratoi yn dilyn y grŵp ffocws neu'r cyfweliadau. 


Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei gynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru. 

 

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru. 

 

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Endaf Griffiths 

Cyfeiriad e-bost: endaf.griffiths@wavehill.com / Rhif ffôn: 03301 228658. 

 

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

 

Pa ddata personol sydd gennym ac o ble rydym yn cael y wybodaeth hon? 

 

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel "unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr". 

 

Cafwyd hyd i'ch sefydliad a'ch manylion cyswllt trwy gronfeydd data cyhoeddus (e.e. gwefannau sefydliad) neu drwy ohebiaeth flaenorol gyda Wavehill neu Menter a Busnes sydd hefyd yn rhan o'r tîm ymchwil.  

 

Mae eich cyfraniad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan neu gael eich  hatgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Bydd Wavehill ond yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn. 

 

Nid yw'r ymchwil hon yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych chi. Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, ni fyddwn yn ei ddefnyddio i'ch adnabod o'r ymatebion rydych yn eu darparu. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei ddileu a bydd y canlyniadau'n cael eu gwneud yn ddienw.  

 

Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.  

 

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data? 

 

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

 

Mae cyfranogiad yn hollol wirfoddol. Mae ymchwil ac astudiaethau cwmpasu fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am eu gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Er enghraifft, gellir defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd:  

  • I benderfynu pa fath o broblemau y mae'r sector amaeth yn eu hwynebu ar hyn o bryd, 

  • I benderfynu sut neu pryd sydd orau i ymgysylltu â'r rhai sy'n gweithio yn y sector amaethyddiaeth; 

  • I sefydlu pwyllgor llywio, 

  • I lunio cwestiynau ar gyfer holiadur ychwanegol i'r rhai sy'n gweithio yn y sector amaethyddiaeth. 

 

Pa mor ddiogel yw’r data personol yn cael ei gyflwyno?

 

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill gan Lywodraeth Cymru bob amser yn cael ei storio mewn ffolder 'storfa ddata ddiogel' ar  weinydd Wavehill. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr penodol sydd yn gallu cyrchu'r data.  Bydd gwaith papur y prosiect yn cael ei gadw dan glo yn swyddfeydd Wavehill.  Mae gan Wavehill ardystiad Cyber Essentials. 

 

Mae Wavehill wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri rheolau diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri rheolau, bydd Wavehill yn adrodd hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.  

 

Bydd Wavehill yn defnyddio'r data i lunio adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.  

 

Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?  

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i ddileu yn ystod dadansoddiad data yn cael ei ddileu dri mis ar ôl i'r contract ddod i ben. 

 

Bydd Wavehill yn rhoi fersiwn ddienw o'r set ddata i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu na fydd y set ddata yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod chi. Yn benodol, bydd eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eraill yn cael eu dileu o'r set ddata hon. 

 

Hawliau unigol 

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o'r gwerthusiad hwn, mae gennych hawl i: 

  • Gael copi o'ch data;  

  • Ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw; 

  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau); 

  • I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a 

  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. 

 

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk

 

Gwybodaeth Bellach

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â: 


Caryl Williams (Gwyddor a Thystiolaeth yr ERA, Llywodraeth Cymru)  

Ffoniwch 03000 254971 

 

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:  

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ 

Related Posts

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page