Cwmpas y Datganiad Preifatrwydd:
Cyflwyniad:
Mae'r datganiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â pedwar agwedd o’r gwerthusiad am y rhaglen Cymru Fyd-eang Darganfod, yn benodol:
Arolwg cyn gadael ar gyfer cyfranogwyr;
Arolwg ar ôl cwblhau ar gyfer cyfranogwyr;
Arolwg rheolydd ar gyfer unigolion oedd ddim wedi cymryd rhan
Cyfweliadau manwl gyda chyfranogwyr Cymru Fyd-eang, Darganfod
Dyma sut rydym yn cadw ac yn prosesu gwybodaeth amdanoch:
Mae Wavehill yn cynnal gwerthusiad o'r rhaglen Cymru Fyd-eang, Darganfod ar ran British Council Cymru. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i helpu British Council Cymru, yn ogystal â chyllidwyr y rhaglen hon, Llywodraeth Cymru a Chymru Fyd-eang, i ddeall y gwahaniaeth y mae'n ei wneud, ac i ddysgu o'r profiad o gyflwyno'r rhaglen.
Mae Cymru Fyd-eang, Darganfod yn rhaglen a reolir gan British Council Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chymru Fyd-eang gyda'r nod o gynyddu'r nifer o israddedigion sy'n astudio mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru i ymweld â gwledydd tramor ar gyfer astudio, gweithio neu wirfoddoli yn ystod eu hastudiaethau.
Mae'r Sefydliadau Addysg Uwch wedi cysylltu ag unigolion i gymryd rhan yn yr ymchwil hon oherwydd byddant yn cymryd rhan neu eisoes wedi cymryd rhan mewn ymweliad a gefnogir gan y rhaglen, neu gofynnwyd iddynt gymryd rhan yn y grŵp rheoli. Fodd bynnag, mae cymryd rhan yn yr ymchwil yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio ag ymgysylltu â'r ymchwil ar unrhyw adeg, cyn neu yn ystod yr ymchwil, a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych.
Bydd eich atebion i'r holiadur yn cael eu trosglwyddo i British Council Cymru, ond byddant yn cael ei wneud yn ddienw. Bydd y data yn cael ei gadw'n ddiogel gan Wavehill am tua chwe mis ar ôl diwedd y gwerthusiad (tua mis Rhagfyr 2021). Ar ddiwedd y gwerthusiad, bydd y data'n cael ei storio'n ddiogel gan British Council Cymru am 10 mlynedd. Bydd y data dim ond cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil anfasnachol, yn benodol dim ond fel gwerthusiad o Gymru Fyd-eang, Darganfod.
Os mae gennych unrhyw gwestiynau am y gwerthusiad gallwch gysylltu â Andy Parkinson efo Wavehill ar (andy.parkinson@wavehill.com)
neu Walter Brooks efo British Council Cymru
Cysylltwch â Wavehill os ydych am addasu neu ddileu eich ymatebion.
Mae Wavehill yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data'r DU 2018 a byddwn yn prosesu'ch data gyda'ch caniatâd, y gofynnir i chi roi fel rhan o'r holiadur. Heb eich caniatâd ni allwch gymryd rhan yn yr arolwg.
Mae gennym rwymedigaeth gontractiol i'ch hysbysu bod gennych yr hawl o dan y Ddeddf Diogelu Data'r DU 2018
I gael mynediad at eich data personol sydd gennym ni.
Ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data.
Gwrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) neu gyfyngu ar brosesu o'ch data
(O dan rai amgylchiadau) i'ch data gael ei ‘ddileu’.
Cysylltwch â Wavehill os ydych chi'n dymuno gwneud unrhyw un o'r pethau hyn.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sydd y rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu efo Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, neu drwy’r wefan
www.ico.gov.uk, neu ysgrifennwch i: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
1. Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu trwy'r holiaduron a’r cyfweliadau?
Bwriad yr holiaduron yw i yw helpu British Council Cymru a chyllidwyr y rhaglen i ddeall profiad cyfranogwyr wrth gymryd rhan mewn Cymru Fyd-eang Darganfod. Y bwriad yw darganfod:
Cymhelliant cyfranogwyr i gymryd rhan yn Gymru Fyd-eang Darganfod;
Profiadau cyfranogwyr o wneud cais am gefnogaeth Cymru Fyd-eang Darganfod;
Profiadau cyfranogwyr yn ystod y profiadau o ymweld gwledydd tramor.
Canfyddiadau cyfranogwyr o'r gefnogaeth a ddarperir cyn, yn ystod ac ar ôl y profiad o ymweld gwledydd tramor.
Yn ogystal â hyn, mae'r arolwg yn gofyn cwestiynau i gyfranogwyr a phobl oedd ddim wedi cymryd rhan er mwyn deall effeithiau'r rhaglen ar:
Canfyddiadau o ryngwladoliaeth
Sgiliau meddal (cyflogadwyedd);
Tebygolrwydd o fyw, gweithio neu astudio dramor yn y dyfodol.
Yn olaf, byddwn yn casglu data demograffig am gyfranogwyr i ddeall a yw Cymru Fyd-eang, Darganfod yn cael effeithiau gwahanol ar wahanol grwpiau.
2. Beth yw data personnol?
Data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn byw a nodwyd neu y gellir ei defnyddio i adnabod nhw. Gall gwahanol ddarnau o wybodaeth, a gesglir gyda'i gilydd sydd yn arwain at adnabod unigolyn penodol, hefyd gallu cael ei diffinio fel data personol.
Cesglir manylion cyswllt er mwyn dosbarthu holiadur dilynol i gyfranogwyr ac i weinyddu raffl.
3. Beth yw'r sylfaen gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gesglir?
Y sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data yw cydsyniad, a ddarperir gan gyfranogwyr yr holiaduron.
4. Pwy sydd â mynediad at y data a gasglwyd trwy'r arolwg?
Bydd data dienw yn cael ei ddefnyddio gan y tîm gwerthuso yn Wavehill. Bydd hyn yn cynnwys tynnu dynodwyr uniongyrchol fel enwau, a bydd dynodwyr anuniongyrchol yn cael eu troi mewn i godau neu gategorïau a fydd yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd cyfranogwyr yn cael eu hadnabod o'r arolwg. Yn dilyn y broses hon, ni fydd e'n bosib adnabod chi o'r data hwn yn ystod y dadansoddiad a bydd canfyddiadau'r arolwg yn cael eu hadrodd ar ffurf data cyfraneddol. Bydd y set ddata lawn yn cael ei dileu gan Wavehill ar ddiwedd y gwerthusiad, sydd tua mis Rhagfyr 2021. Fodd bynnag, bydd fersiwn anhysbys o'r set ddata yn cael ei throsglwyddo i British Council Cymru a'i storio am 10 mlynedd.
Comments